Emily Tucker
Gwedd
Emily Tucker | |
---|---|
Ganwyd | 2 Medi 1991 Pontarddulais |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor |
Cysylltir gyda | Pobol y Cwm |
Actores o Gymru yw Emily Victoria Tucker (ganed 2 Medi 1991). Mae'n dod o Bontarddulais, ger Abertawe a mynychodd Ysgol Gyfun Gwyr cyn dilyn gyrfa yn actio ar y teledu. Mynychodd Ysgol Berfformio Mark Jermin o'r adeg roedd yn wyth oed yn Saron ger Rhydaman.[1]
Mae wedi ymddangos yng nghyfres deledu BBC2, Belonging ac ar hyn o bryd, mae'n chwarae rhan Sioned, merch sydd wedi symud i Gwmderi o Aberystwyth[2] ar opera sebon S4C, Pobol y Cwm.
Yn 2008, cyrhaeddodd y pum actores olaf i chwarae rhan Tiara yn y drydedd ffilm High School Musical 3.[3] Ym mis Rhagfyr 2009, perfformiodd gân o'r sioe gerdd Chicago mewn cystadleuaeth i ddewis modelau ar gyfer calendr ar gyfer 2010-2011.[4]
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]Teledu
[golygu | golygu cod]- High Hopes - Merch ysgol, (2008)
- Y Pris - Llygoden (2007)
- Pobol y Cwm
- Jonathan (2011)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Mark Jermin Archifwyd 2010-07-30 yn y Peiriant Wayback Adalwyd ar 17-07-2010
- ↑ Press Release: Pobol Y Cwm actors experience both sides of bullying. BBC (17 Tachwedd 2008).
- ↑ Swansea girl missed out on High School Musical 3 role South Wales Evening Post. 11-10-2008. Adalwyd ar 17-07-2010
- ↑ Twelve Swansea stunners picked for new 2010 calendar. 20-11-2009. South Wales Evening Post.