Erotica
Cyfeiria'r term Erotica (o'r gair Groeg Eros - "serch" neu "chwant") at weithiau celf, sy'n cynnwys llenyddiaeth, ffotograffiaeth, ffilm, cerfluniau a darluniau, sy'n ymwneud yn bennaf neu'n gyfangwbl â disgrifiadau sy'n cyffroi'r darllenydd neu'r gwyliwr mewn modd erotig. Diweddar yw'r gair Erotica ei hun, sy'n disgrifio portreadau mewn llenyddiaeth neu'r celfyddydau gweledol o anatomeg y corff dynol a rhyw, ond gan eu trin fel rhan o'r celfyddyddau gyda gwerth artistig ynddo ei hun yn hytrach nag fel maswedd/pornograffi yn unig.[1]
Genres a themau
[golygu | golygu cod]Ceir sawl is-genre i Erotica sy'n gallu pontio holl sbectrwm rhywioldeb a chwaeth. Mewn llenyddiaeth erotig ceir straeon sy'n perthyn i genres fel ffuglen wyddonol, ffantasi, arswyd a nofelau rhamantaidd, er enghraifft. Yn ogystal, ac yn arbennig yn ystod y ganrif ddiwethaf, mae erotica yn aml yn canolbwyntio ar agweddau ffetisaidd fel BDSM, gwisgo iwnifformau, croes-wisgo, lesbiaeth, a gwrywgydiaeth.
Y berthynas rhwng erotica a maswedd
[golygu | golygu cod]I raddau mae'r ddadl ynglŷn â'r ffin rhwng erotica a maswedd yn anodd diffinio gyda llawer yn dibynnu ar safbwynt neu gred yr unigolyn, ei gyfnod a'i ddiwylliant. Er enghraifft, byddai Cristnogion a Mwslemiaid ffwndamentalaidd yn tueddu i alw pob portread o ryw neu gorff dynol noeth yn faswedd.
Mae chwaeth a barn pobl wedi amrywio dros y canrifoedd hefyd; roedd llawer o bobl yn oes Fictoria er enghraifft yn arswydo rhag lluniau a cherfluniau o bobl noethlymun ac yn cuddio rhannau o gerfluniau â dail ffigys. Ond yn yr Oesoedd Canol roedd y sefyllfa'n fwy cymhleth. Mae rhai o gampweithiau mwyaf adnabyddus y cyfnod, yn cynnwys Decamerone Boccaccio a Canterbury Tales Chaucer, yn cynnwys penodau erotig iawn. Canodd sawl un o Feirdd yr Uchelwyr gerddi erotig/masweddus (e.e. Cywydd y Gal gan Dafydd ap Gwilym), ac roedd cerfluniau bychain o ffigurau benywaidd yn dangos eu haelodau rhywiol i'w gweld mewn sawl eglwys ac eglwys gadeiriol (gweler sheelanagig).
Yn gyffredinol, gellid dadlau bod "erotica" yn cyfeirio at bortreadau o ddeunydd sy'n fod i godi chwant ond sydd o werth artistig neu emosiynol hefyd, tra bod pornograffi neu faswedd yn derm sy'n golygu portreadau masnachol o ryw a rhywioldeb heb unrhyw werth artistig go iawn.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Canu maswedd Cymraeg yr Oesoedd Canol
- Bijinga a Shunga - darluniau erotig o Siapan
- Celfyddyd erotig
- Llenyddiaeth erotig
- Darluniau erotig
- Ffotograffiaeth erotig
- Rhestr awduron gweithiau erotig
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-10-31. Cyrchwyd 2008-01-21.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) "Erotica and Pornography" Archifwyd 2011-09-27 yn y Peiriant Wayback gan Edmund Miller
- (Saesneg) "Erotic Digital Art" Archifwyd 2013-05-20 yn y Peiriant Wayback
|