Gareth F. Williams
Gareth F. Williams | |
---|---|
Gareth F. Williams yn ennill Llyfr y Flwyddyn 2015. Llun: Rhys Llwyd / Llenyddiaeth Cymru. | |
Ganwyd | 9 Chwefror 1955 Porthmadog |
Bu farw | 14 Medi 2016 o canser |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
- Peidiwch â chymysgu yr awdur hwn â Gareth W. Williams.
Awdur oedd Gareth Finlay Williams (9 Chwefror 1955 – 14 Medi 2016) oedd yn adnabyddus am ysgrifennu nofelau i blant ac oedolion yn ogystal â chreu nifer fawr o gyfresi drama ar deledu. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn am ei nofel Awst yn Anogia.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd ym Mhorthmadog yn fab i Hugh Finley a Menna Williams[1] a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Eifion Wyn ac Ysgol Eifionydd, Porthmadog. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor ac yna ei hyfforddi fel athro yng Ngholeg Cartrefle, Wrecsam.
Gweithiodd am ddwy flynedd yn siop Recordiau'r Cob ym Mhorthmadog rhwng 1973 a 1975. Bu'n gweithio fel athro Cymraeg yn Ysgol Rhiwabon rhwng 1979 ac 1985. Treuliodd gyfnod yn byw yn Y Tyllgodd lle bu briod an Nia Einir Jones yn 1989 ac yna symud I Llanddunwy cyn symud wedyn i Silstwn, Bro Morgannwg, cyn ysgaru yn 2008 ac ymgartrefu yn Beddau ger Pontypridd.[2]
Roedd yn gyfrifol am gyd-greu cyfresi drama ar S4C, fel Pengelli a Rownd a Rownd. Roedd yn awdur y cyfresi Pen Tennyn a Lan a Lawr.
Enillodd Wobr Tir na n-Og am ei lyfrau ar gyfer plant ar chwe achlysur. (Gweler y rhestr isod.)
Roedd yn un o'r tri oedd ar y panel ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy ym mis Awst 2016. Roedd wedi bod yn brwydro canser a'r diwrnod wedi cyflwyno'r wobr yn Eisteddfod y Fenni daeth i wybod nad oedd gwella. Bu farw yn 61 oed yn ei gartref ym Meddau gan adael ei wraig Rachel.[1][3]
Yn 2018 rhoddwyd Gwobr Mary Vaughan Jones iddo am ei gyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant, dwy flynedd ar ôl ei farwolaeth. Cyflwynwyd y tlws i'w deulu mewn seremoni arbennig ym Mhortmeirion ar 18 Hydref 2018.[4]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Llyfrau Plant
[golygu | golygu cod]- Ysgrifennu a Darllen, Cyfres Di-Ben-Draw: Uned III (BBC, 1993)
- Dirgelwch Loch Ness (Y Lolfa, 1996)
- O Ddawns i Ddawns (Y Lolfa, 1996)
- Pen Cyrliog a Sbectol Sgwâr, Cyfres Cled (Y Lolfa, 1999)
- Jara (Gwasg Gomer, 2004)
- Dial, Cyfres Lleisiau (Canolfan Astudiaethau Addysg, 2006)
- Adref heb Elin, Cyfres Whap! (Gwasg Gomer, 2006)
- Y Sifft Nos, Cyfres Tonic 5 (Canolfan Astudiaethau Addysg, 2007)
- Bethan am Byth, Cyfres Tonic 5 (Canolfan Astudiaethau Addysg, 2007)
- Eira Mân, Eira Mawr, Cyfres Whap! (Gwasg Gomer, 2007)
- Nadolig Gwyn (Gwasg Gomer, 2007)
- Tacsi i'r Tywyllwch, Stori Sydyn (Y Lolfa, 2007)
- Ffrindiau, Cyfres Whap! (Gwasg Gomer, 2008)
- Mr Petras, Cyfres Tonic (CAA Cymru, 2008)
- Curig a'r Morlo (Gwasg Gwynedd, 2009)
- Rhyfedd o Fyd (Gwasg Gwynedd, 2009)
- Gwaed y Gwanwyn (Canolfan Astudiaethau Addysg, 2010)
- Y Ddwy Lisa: Cysgod yr Hebog (Y Lolfa, 2010)
- Y Ddwy Lisa: Sgrech y Dylluan (Y Lolfa, 2010)
- Y Dyn Gwyrdd, Cyfres Pen Dafad (Y Lolfa, 2012)
- Yr Ochr Draw/Yr Eneth Gadd ei Gwrthod, Cyfres y Fflam (CAA Cymru, 2012)
- Hwdi (Y Lolfa, 2013)
- Cwmwl dros y Cwm (Gwasg Carreg Gwalch, 2013)
- Anji, Cyfres Copa (Y Lolfa, 2014)
- Y Gêm (Gwasg Carreg Gwalch, 2014)
Llyfrau Oedolion
[golygu | golygu cod]- Pengelli (Hughes, 1996)
- Dyfi Jyncshiyn: Y Dyn Blin (Gwasg Gwynedd, 2007)
- Dyfi Jyncshiyn: Y Ddynes yn yr Haul (Gwasg Gwynedd, 2009)
- Mei Ling a Meirion (Gwasg Gwynedd, 2010)
- Creigiau Aberdaron (Gwasg Gwynedd, 2010)
- Y Tŷ Ger y Traeth (Y Lolfa, 2012)
- Awst yn Anogia (Gwasg Gwynedd, 2014)
Dramâu
[golygu | golygu cod]- Siôn a Siân (1988)
Gwobrau ac Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Enillydd Gwobr Tir na n-Og 1991 (ffuglen), gyda O Ddawns i Ddawns
- Enillydd Gwobr Tir na n-Og 1997 (ffeithiol), gyda Dirgelwch Loch Ness
- Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2007 (sector uwchradd), gyda Adref heb Elin
- Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2008 (sector uwchradd), gyda Eira Mân, Eira Mawr
- Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2014 (sector cynradd), gyda Cwmwl dro y Cwm
- Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2015 (sector uwchradd), gyda Y Gêm
- Enillydd Prif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2015 gyda'i nofel Awst yn Anogia
- Gwobr BAFTA am ei sgript ffilm o Siôn a Siân
- Gwobr yr ŵyl yn yr Ŵyl Ffilmiau Celtaidd am ei gyfres Pen Tennyn
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 GARETH F : Obituary. bmdsonline.co.uk (21 Medi 2016).
- ↑ Marw Gareth F, awdur dewr a chynhyrchiol , Golwg360.
- ↑ Yr awdur Gareth F Williams wedi marw , BBC Cymru Fyw, 14 Medi 2016.
- ↑ Rhoi Tlws Mary Vaughan Jones i’r diweddar Gareth F Williams , Golwg360, 17 Medi 2018.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- [1] Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback Taflen Adnabod Awdur Cyngor Llyfrau Cymru