Glaslyn, Yr Wyddfa
Gwedd
Llyn Glaslyn, gyda Llyn Llydaw yn y cefndir | |
Math | llyn, cronfa ddŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Beddgelert |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.0706°N 4.0661°W |
Rheolir gan | RWE Generation UK PLC |
Llyn yng Ngwynedd yw Glaslyn neu Llyn Glaslyn. Saif ar lethrau'r Wyddfa, 1,970 troedfedd uwch lefel y môr. Yma mae tarddle Afon Glaslyn.
Ymddengys mai'r enw gwreiddiol oedd Llyn Ffynnon Glas, ac mae Thomas Pennant yn ei alw yn Ffynnon Las. Mae'n lyn gweddol fawr, gydag arwynebedd o 18 acer a dyfnder o 127 troedfedd yn y man dyfnaf, ond ni cheir pysgod ynddo oherwydd llygredd o'r mwynfeydd copr oedd o'i gwmpas yn y gorffennol.
Cysylltir nifer o chwedlau a'r llyn, yn arbennig y chwedl am yr Afanc, anghenfil a drigai yn y llyn. Mae hefyd chwedlau am y Tylwyth Teg yn gysylltiedig ag ef.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1995)