Goresgyniad Teyrnas Navarra gan y Sbaenwyr
Cychwynnodd Sbaen goncro rhan Iberaidd o Navarra pan ymosododd Ferdinand II o Aragon a chwblhawyd y gwaith gan ei ŵyr, ei olynydd Siarl V, Ymerawdwr Glân Rhufeinig mewn cyfres o ymgyrchoedd milwrol a barhaodd rhwng 1512 a 1524. Ferdinand oedd brenin Aragon a Rhaglyw Teyrnas Castilla yn 1512. Pan alwodd y Pab Julius II am "Gynghrair Sanctaidd" yn erbyn Ffrainc ddiwedd 1511, ceisiodd Navarra aros yn niwtral. Defnyddiodd Ferdinand hyn fel esgus i ymosod ar Navarra, gan ei orchfygu, tra bod Lloegr, Fenis, a byddinoedd Eidalaidd Ferdinand, yn ymosod ar Ffrainc.[1]:21 Louis XII coveted the Albrets' territories and resorted to the Parliament of Toulouse, which issued a confiscation decree. When the Parliament of Navarre (The Three States) and the States-General of Béarn were confronted with the possibility of a French takeover in 1510, a military mobilization was decreed and a bill passed to create a Béarn-Navarre confederation and a permanent joint defense provision against external assault. Ferdinand II again searched for allies among the Navarrese Beaumont party.[1]:21, 87
Gwnaed sawl ymdrech i gymerwyd y Navarra Iberaidd yn ôl, yn syth wedi'r goresgyniad Castilaidd. Cafwyd hanner ymgais yn 1516 ac ymgyrch Franco-Navarrase lawn ym 1521. Cafodd pob ymgais ei threchu gan y Sbaenwyr a daeth y gwrthdaro i ben ym 1528, pan dynnodd milwyr Sbaen o Navarra Isaf i'r gogledd o'r Pyrenees. Roedd Cytundeb Cambrai rhwng Sbaen a Ffrainc yn 1529 yn rhoi sêl ei fendith ar ranu Navarra ar hyd y Pyreneau. Cymerwyd Navarra Uchaf gan Castilla, ond parhaodd teyrnas annibynnol Navarra (sef Navarra Uchaf), a reolwyd gan Dŷ'r Albrets ac a unodd â'u tywysogaeth yn Béarn. Roedd yn cynnal cysylltiadau agos â Ffrainc ac erbyn 1620 cafodd y deyrnas ei hamsugno'n rhan o Ffrainc (ac mewn enw yn 1790).
Cefndir
[golygu | golygu cod]- Prif: Teyrnas Navarra
Roedd cryn ansicrwydd ynghylch coron Navarra, gyda dau deulu benben a'i gilydd: y Beaumontiaid a'r Agramontiaid. Roedd yn hawdd i rymoedd o'r tu allan fanteisio ar y ffraeo mewnol hwn.
Yn 1474 sefydlodd Brenin Castilla, Ferdinand II o Aragon, gyfuniad o gynghreiriau ac ymdrechion milwrol gyda'r nod o sicrhau rheolaeth teyrnasoedd cyfagos. Roedd hyn yn cynnwys ceisio troi Navarra yn amddiffyniad de facto o Castilla yn 1476. Fodd bynnag, yn ystod y degawd canlynol, canolbwyntiodd brenin a brenhines Aragon, Ferdinand II a'r Frenhines Isabella I o Castilla eu hymdrechion milwrol ar ddarostwng Emiriaeth Granada yn ystod rhyfel a barhaodd am dros 10 mlynedd. Daeth hyn i ben yn 1492 gyda Castilla yn trechu Granada ac yn dod a'r Reconquista i ben. Ar ôl cwymp Granada, dwysodd y pwysau ar Navarre.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhyfel Iberia (1808–14)