Grigore Vieru
Gwedd
Grigore Vieru | |
---|---|
Ganwyd | 14 Chwefror 1935 Pererîta |
Bu farw | 18 Ionawr 2009 Chişinău |
Dinasyddiaeth | Yr Undeb Sofietaidd, Moldofa |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfieithydd, bardd, awdur geiriau |
Plaid Wleidyddol | Popular Front of Moldova |
Gwobr/au | Urdd y Weriniaeth, Urdd seren Romania, Urdd Cyfeillgarwch y Bobl, Urdd y Bathodyn Anrhydedd, "Mihai Eminescu" Medal, Q4376918, Moldavian SSR State Prize |
Bardd a llenor plant Rwmaneg o wlad Moldofa oedd Grigore Vieru (14 Chwefror 1935 – 18 Ionawr 2009).
Ganwyd yng ngogledd-ddwyrain Teyrnas Rwmania, pum mlynedd cyn i'r Undeb Sofietaidd gyfeddiannu'r rhanbarth hwnnw a chreu Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Moldafia. Yn ystod y cyfnod Sofietaidd, pan Rwseg oedd yr iaith swyddogol, ysgrifennodd Vieru yn ei famiaith, a siaradodd o blaid uniad diwylliannol Rwmania a Moldofa.
Bu farw yn yr ysbyty yn Chisinau, deuddydd wedi iddo ddioddef anafiadau mewn damwain car. Datganwyd diwrnod cenedlaethol o alaru gan yr Arlywydd Vladimir Voronin.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Moldovan poet Grigore Vieru dies in car crash, The San Diego-Union Tribune (19 Ionawr 2009). Adalwyd ar 3 Mai 2017.