Gwenffrewi
Gwenffrewi | |
---|---|
Ganwyd | 635 Tegeingl |
Bu farw | 680 Gwytherin, Conwy |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | lleian |
Blodeuodd | c. 650 |
Swydd | abades |
Dydd gŵyl | 3 Tachwedd |
Santes oedd Gwenffrewi (weithiau Gwenfrewi neu Gwenffrwd) oedd yn byw ynghanol y 7g. Fe'i cysylltir â Treffynnon.
Hanes
[golygu | golygu cod]Daw'r wybodaeth gyntaf amdani o Buchedd Gwenffrewi, yn o'r bucheddau cyntaf a ysgrifennwyd yn y 8g.[1] Mae hon ymhlith y cofnodion ysgrifenedig cyntaf o hanesion saint Celtaidd.
Bywyd Gwenffrewi
[golygu | golygu cod]Ei thad oedd Thewyth ap Eliud o Degeingl, ac yr oedd ei mam, Gwenlo, ferch Insi o Bowys, yn chwaer i sant Beuno. Roedd Thewyth a Gwenlo yn Cristnogion. Rhoddasant darn o dir yng nghwm Sychnant (ger Treffynnon) i Beuno i ddatblygu llan yno ac ymddiriedasant addysg Gwenffrewi iddo.
Syrthiodd mab pennaeth o'r enw Caradog mewn cariad â hi. Un dydd yn 660 daeth ef i ymweld â Gwenffrewi pan oedd ei rhieni a'i hewyrth yn y capel. Mae'n ymddangos fod y cyfarfod yma wedi ei drefnu, gan nad oedd Gwenffrewi gyda'i rhieni. Pan wrthododd hi briodi Caradog, ceisiodd ei threisio. Llwyddodd Gwenffrewi i ddianc, gan ffoi tuag at y capel. Rhuthrodd Caradog ar ei hôl gan ei tharo yn ei gwddw â'i gleddyf. Mae'r cofnod cynharaf yn dweud "min ei gleddyf trwy'i mwngwl ai." [2] Llewygodd Gwenffrewi ond clywodd y rhai oedd yn y capel y cyffro a daethant allan. Taflodd Beuno ei glogyn dros Gwenffrewi, gan feddwl ei bod wedi marw, a melltithiodd Caradog. Ffôdd Caradog "fel cŵyr o flaen fflamau" o'r cwm. Aeth mor gyflym nes peri i rai gredu fod y ddaear wedi ei lyncu. Plygodd Beuno i weddïo. Gwelodd symudiad o dan y clogyn a sylwodd bod Gwenffrewi yn fyw a llwyddodd gyda chymorth ei mam i atal y gwaedu, a'i hiacháu, ond arhosai craith, llinell wen hir, am wddw Gwenffrewi.[2] Yn y man lle syrthiodd, dangosodd ei gwaed ddŵr yn llifo trwy'r brwgaetsh mewn man nad oedd neb wedi sylwi arno o'r blaen. Mewn cwm a elwid Sychnant, bu darganfod dŵr yn bwysig, a gwnaed ffynnon yno.[1]
Am saith mlynedd wedyn arhosodd Gwenffrewi yn Sychnant yn cynorthwyo Beuno. Daeth trigolion yr ardal i adnabod Gwenffrewi am ei charedigrwydd. Pan aeth Beuno i Clynnog Fawr aeth Gwenffrewi i Fodfari i weithio gyda Deifr. Wedyn aeth i Henllan, Sir Ddinbych i ymuno â Sadwrn. Symudodd wedyn i Wytherin, Conwy, a dilynodd ei modryb Eleri fel arweinydd y llan. Bu farw yn Ngwytherin tua'r flwyddyn 680. Claddwyd hi yno.
Dechrau'r Chwedl
[golygu | golygu cod]Ystyrir Gwenffrewi yn ferthyr oherwydd datblygodd chwedl fod Caradog wedi torri ei phen ymaith yn llwyr a llwyddodd Beuno i'w hiacháu hi yn wyrthiol, trwy osod ei phen yn ôl. Datblygodd y chwedl hon, mae'n debyg, oherwydd y graith ar ei gwddf a bod y rhai a'i gwelodd yn credu ei bod hi wedi marw. Yn ôl un fersiwn o'r chwedl, rhowliodd ei phen i lawr y llethr, a chododd ffynnon yn y fan a'r lle, sef Ffynnon Wenffrewi yn Nhreffynnon. Yn fuan iawn datblygodd y gred fod dŵr o'r ffynnon yn wyrthiol. Lledaenodd hanesion amdani a dechreuodd pobl bererindota i Dreffynnon. Roedd yn daith boblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol a daeth Gwenffrewi yn adnabyddus trwy ynysoedd Prydain, ac roedd brenhinoedd a boneddigion ymhlith y rhai a ymwelai â'i ffynnon. Mae pererindota ac ymdrochi yn nŵr y ffynnon yn parhau o hyd.[2]
Abaty Amwythig
[golygu | golygu cod]1137 bu Gwenffrewi yn ddigon adnabyddus i ddenu sylw Abaty Amwythig. Cipiwyd ei gwedillion o Wytherin gan y mynaich a'u hail-gladdu yn Abaty Amwythig yn 1138.[3] Ysgrifennwyd buchedd iddi gan Robert, prior abaty Amwythig, rhwng 1140 a 1167. Mae'n debyg fod y chwedl am Gwenffrewi yn cymryd llw o ddiweirdeb yn ifanc iawn, gan ddymuno bod yn lleian, wedi ei hychwanegu yn y cyfnod hwn. Mae'n ychwanegiad sy'n cyd-fynd â delfrydau'r Oesoedd Canol yn hytrach nag adlewyrchu agweddau'r eglwys Geltaidd tuag at rywioldeb. Adeiladwyd creirfa i'w hesgyrn yn yr Abaty ond fe ddinistriwyd honno yn ystod y Diwygiad Mawr. Un darn yn unig sydd wedi goroesi; carreg â cherfluniau o Ioan Fedyddiwr, Gwenffrewi a Beuno arni.
Y Capel
[golygu | golygu cod]Mae'n debyg bod Beuno a'i gyfoedion wedi adeiladu eglwys o bren a phridd yn Sychnant. Ailadeiladwyd eglwys o gerrig ar yr un safle, ger y ffynnon; ond dadfeiliodd yr eglwys hon erbyn y 15g. Adeiladwyd eglwys newydd ar gyfer y plwyf yno a'i hailgysegru i Sant Iago. Margaret Beaufort (mam Harri VII) fu'n gyfrifol am adeiladu'r capel sy'n cysgodi'r ffynnon yn 1500 [3] ac mae'n debyg mai'r cysylltiad â hi a gadwodd y capel rhag cael ei ddinistrio yn y Diwigiad Mawr. Daeth y ffynnon yn un o Saith Rhyfeddod Cymru.[4]
Mae ffynnon arall gyda chapel sydd yn gysylltiedig â'r santes i'w chael ym mhentref Woolston. Yn ôl traddodiad, roedd hwn yn fan lle gorffwysodd y mynachod a oedd yn cludo'i chorff o Dreffynnon i Abaty Amwythig.
Y "Santes"
[golygu | golygu cod]Mae Gwenffrewi fel "gwyryf a merthyr" yn cwrdd â'r cymwysterau ar gyfer santes (yn yr ystyr Gatholig).[5] Mae hi'n un o'r ychydig santesau o Gymru a ddaeth yn adnabyddus y tu allan i'w bro eu hunain. Yn eithriadol, cysegrwyd sawl eglwys iddi ar ôl yr Oesoedd Canol. Nid yw hi erioed wedi cael ei chydnabod fel santes gan unrhyw Bab, ond mae nifer o'r eglwysi newydd yn eglwysi Catholig.
Ei gwylmabsant yw naill 22 Mehefin pan gofir ei "merthyrdod" neu 3 Tachwedd, pan gofir ei "hail farwolaeth".
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun yr erthygl Santesau Celtaidd 388-680.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 E. R. Henken, Traditions of the Welsh Saints (Caergrawnt, 1987)
- ↑ 2.0 2.1 2.2 John Idris Owen, Chwe Chwedl Werin (Canolfan Technoleg Addysg Clwyd, 1981)
- ↑ 3.0 3.1 Ray Spencer, A Guide to the Saints of Wales and the West Country (Llanerch, 1991)
- ↑ Llawlyfr "Winnifred's Well"
- ↑ Marina Warner, Alone of All Her Sex (Llundain, 1976)