Gwyach yddfddu
Gwedd
Gwyach yddfddu | |
---|---|
Gwyach Yddfddu mewn plu haf | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Podicipediformes |
Teulu: | Podicipedidae |
Genws: | Podiceps |
Rhywogaeth: | P. nigricollis |
Enw deuenwol | |
Podiceps nigricollis Brehm, 1831 |
Mae'r Wyach yddfddu, Podiceps nigricollis, yn aelod o deulu'r Podicipedidae, y gwyachod.
Mae tipyn yn llai na'r Wyach fawr gopog, tua 28–34 cm (12–14 modfedd) o hyd. Yn yr haf, mae'n aderyn hawdd ei adnabod, gyda gwddf du a chudynnau o blu hir euraid ar ochr y pen. Yn y gaeaf, collir y rhain, ac mae'r aderyn yn ddu a gwyn.
Mae'n nythu ar lynnoedd dŵr croyw ar draws Ewrob, Asia, Affrica, yr Unol Daleithiau a rhan ogleddol Dde America. Ceir nifer o is-rywogaethau:
- P. n. nigricollis, o orllewin Ewrop hyd orllewin Asia
- P. n. gurneyi, de Affrica
- P. n. californicus, o de-orllewin Canada trwy orllewin yr Unol Daleithiau.
Nid yw'r Wyach yddfddu yn nythu yng Nghymru fel rheol, er bod cofnodion o barau yn nythu ar Ynys Môn yn y gorffennol. Ceir ambell un o gwmpas yr arfordir ac ar lynnoedd yn ystod y gaeaf, er enghraifft o gwmpas Traeth Lafan