Neidio i'r cynnwys

Hip hop

Oddi ar Wicipedia

Mae Hip hop yn fath o gerddoriaeth ac yn fudiad diwylliannol; a ddatblygwyd yn Ninas Efrog Newydd ar ddechrau'r 1970au yn bennaf ymysg Americanwyr Affricanaidd ac Americanwyr o Dde America. Pedair prif elfen hip hop ydy gweithio fel MC neu Rhythm a Cherddi (yn Saesneg: Rhythm and Poetry) a elwir yn aml yn rapio, gweithio fel DJ, ysgrifennu graffiti a dawns breakdance. Mae elfennau eraill hefyd yn cynnwys bîtbocsio a ffasiwn hip hop. Ers datblygiad hip hop yn y Bronx, mae diwylliant hip hop wedi ymledu ar draws y byd.

Rhai enghreifftiau o artistiaid hip hop Americanaidd ydy Run DMC, Public Enemy, Monie Love, Salt-N-Pepa, Roxanna Shanté, Fugees, Kendrick Lamar, Beastie Boys, Nas, Notorious B.I.G., a Lil Nas X.

Hip hop Cymraeg

[golygu | golygu cod]

Yn ystod yr 1980au ymledodd hip hop o'i wreiddiau yn Efrog Newydd i wledydd eraill. Dull Di Drais gan Lwybr Llaethog oedd un o'r recordiau hip hop cyntaf yn y Gymraeg pan rhyddhawyd yn 1986.[1]

Ers hynny mae hip hop wedi dyfod yn rhan sylweddol o gerddoriaeth Gymraeg boblogaidd, gyda grwpiau megis Y Tystion yn perfformio a chyhoeddi albymau cyfan o'r 90au ymlaen.

Dyma rai enghreifftiau o artistiaid Cymraeg sydd wedi creu a pherfformio caneuon hip hop:

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am hip hop. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. https://www.discogs.com/Llwybr-Llaethog-Dull-Di-Drais/release/1058533