Hugo Achugar
Hugo Achugar | |
---|---|
Ffugenw | Juana Caballero |
Ganwyd | Hugo José Achugar Ferrari 23 Ionawr 1944 Montevideo |
Dinasyddiaeth | Wrwgwái |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, academydd, beirniad llenyddol, bardd, nofelydd |
Cyflogwr | |
Arddull | traethawd |
Gwobr/au | Legión del Libro Prize, Premio Bartolomé Hidalgo, Morosoli Award |
Bardd yn yr iaith Sbaeneg, beirniad diwylliannol, ac academydd o Wrwgwái yw Hugo Achugar (ganwyd 1943) sy'n nodedig am ei ysgrifau am lên a diwylliant America Ladin.
Astudiodd lenyddiaeth ac ieithyddiaeth mewn prifysgolion yn Wrwgwái, Feneswela, a Ffrainc cyn iddo ennill ei ddoethuriaeth ar bwnc llên America Ladin o Brifysgol Pittsburgh. Addysgodd ym Mhrifysgol y Weriniaeth, Wrwgwái a Phrifysgol Simón Bolívar a'r Brifysgol Gatholig yn Feneswela. Dychwelodd i'r Unol Daleithiau i weithio ym Mhrifysgol y Gogledd Orllewin o 1983 i 1992.[1]
Dylanwadwyd arno'n gryf gan waith Ángel Rama, ac mae wedi treiddio'n ddwfn i astudiaethau modernismo, er enghraifft yn ei gyfrol Poesía y sociedad: Uruguay 1880–1911 (1985).[2] Yn ogystal â'i weithiau ei hunan, mae Achugar wedi golygu mwy na 15 o gasgliadau o waith gan awduron eraill o America Ladin.[1]
Mae'n dal swydd Athro Emeritws llên a diwylliant cyfoes America Ladin ym Mhrifysgol Miami.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Barddoniaeth
[golygu | golygu cod]- Textos para decir María (1976)
- Las mariposas tropicales (1986)
- Todo lo que es sólido se disuelve en el aire (1989)
- Orfeo en el salon de la memoria (1992).
Beirniadaeth ac ysgrifau
[golygu | golygu cod]- Ideologías y estructuras narrativas en José Donoso, 1950-1970 (1979).
- Poesía y sociedad: Uruguay 1880–1911 (1985).
- La balsa de la medusa: Ensayos sobre identidad, cultura y fin de siglo en Uruguay (Montevideo: Ediciones Trilce, 1992).
- La biblioteca en ruinas. Reflexiones culturales desde la periferia (Montevideo, 1994).
- Como el Uruguay no hay (2000)
- Planetas sin boca: Escritos efímeros sobre arte, cultura y literatura (2004).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "Emeritus Faculty", Ieithoedd a Llenyddiaeth Modern Prifysgol Miami. Adalwyd ar 14 Gorffennaf 2019.
- ↑ Magdalena García Pinto, "Achugar, Hugo" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 1–2.
- Academyddion o Wrwgwái
- Beirdd yr 20fed ganrif o Wrwgwái
- Beirdd yr 21ain ganrif o Wrwgwái
- Beirdd Sbaeneg o Wrwgwái
- Beirniaid celf Sbaeneg o Wrwgwái
- Beirniaid llenyddol Sbaeneg o Wrwgwái
- Genedigaethau 1943
- Pobl o Montevideo
- Ysgrifwyr a thraethodwyr yr 20fed ganrif o Wrwgwái
- Ysgrifwyr a thraethodwyr yr 21ain ganrif o Wrwgwái
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Sbaeneg o Wrwgwái