Isabelle o Ffrainc
Isabelle o Ffrainc | |
---|---|
Ganwyd | 1295, 1296 Paris |
Bu farw | 22 Awst 1358, 1358 Castle Rising |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | rhaglyw |
Swydd | rhaglyw |
Tad | Philippe IV, brenin Ffrainc |
Mam | Joan I o Navarre |
Priod | Edward II, brenin Lloegr |
Plant | Edward III, brenin Lloegr, John of Eltham, iarll Cernyw, Eleanor o Woodstock, Joan o'r Tŵr |
Llinach | Capetian dynasty |
Tywysoges o Ffrainc a briododd Edward II o Loegr oedd Isabelle o Ffrainc neu Isabelle de France (1295 – 22 Awst 1358).
Hanes
[golygu | golygu cod]Cafodd Isabelle ei geni ym Mharis, yn ferch i'r brenin Philippe IV ac yn chwaer i dri o frenhinoedd Ffrainc.
A hithau'n ferch 14 oed, bu rhaid iddi briodi Edward II, brenin Lloegr, mab Edward I, brenin Lloegr, yn 1308. Diflasodd yn llwyr ar ei ŵr ar croeso llugoer a gawsai yn llys Lloegr, a dychwelodd i Ffrainc yn 1325 ar ôl i'w frawd Siarl IV, brenin Ffrainc gipio llawer o diriogaethau'r Saeson yn Ffrainc.
Syrthiasai mewn cariad â'r barwn Roger de Mortimer (Iarll y Mers yn ddiweddarach) tra yn Lloegr, ac yn 1326 arweiniodd Isabelle fyddin i Loegr. Trechodd fyddin Edward II a gorfododd iddo ildio gorsedd Lloegr i'w mab, Edward, a oedd yn fwy derbyniol i'r barwniaid. Rheolodd Isabelle a'i chariad Roger de Mortimer yn enw Edward, a oedd yn rhy ifanc i fod yn frenin. Yn 1327 llofruddiwyd Edward yng Nghastell Berkeley, ar orchymyn Roger ac Isabelle yn ôl pob tebyg.
Ond pan ddaeth Edward i'r orsedd fel Edward III, trôdd ar ei fam a Mortimer a chawsant eu harestio. Dienyddwyd Mortimer yn y ffordd erchyll arferol ar gyfer y rhai a ystyriwyd yn fradwyr a gorfodwyd Isabelle i ymneilltuo i gwfent yn Castle Rising, ger King's Lynn, lle bu aros am weddill ei dyddiau.
Plant
[golygu | golygu cod]- Edward III, brenin Lloegr
- John
- Eleanor
- Joan
Ffuglen
[golygu | golygu cod]Mae Isabell yn gymeriad canolog yn y ffilm Braveheart lle mae'n cael ei phortreadu fel cariad William Wallace.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Blackley, F. D. 'Isabella of France, Queen of England 1308-1358, and the Late Medieval Cult of the Dead' (Canadian Journal of History)
- Doherty, P. C. Isabella and the Strange Death of Edward II (2003)
- McKisack, May, The Fourteenth Century 1307-1399 (1959)
- Woods, Charles T., 'Queens, Queans and Kingship', yn Joan of Arc and Richard III: Sex, Saints and Government in the Middle Ages (1988)
- Weir, Alison. Queen Isabella: Treachery, Adultery, and Murder in Medieval England (Balantine Books, 2005)