Joe Calzaghe
Joe Calzaghe | |
---|---|
Ganwyd | 23 Mawrth 1972 Hammersmith |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | paffiwr |
Taldra | 182 centimetr |
Tad | Enzo Calzaghe |
Gwobr/au | CBE, Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC, WBO World Super Middleweight Champion |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Paffiwr a phencampwr y byd o Gymru yw Joseph William "Joe" Calzaghe MBE (ganwyd 23 Mawrth 1972, Hammersmith, Llundain). Mae ganddo'r llysenwau The Pride of Wales a The Italian Dragon oherwydd ei wreiddiau cymysg; cafodd ei eni yn Llundain ond mae ei dad, Enzo Calzaghe, o dras Eidalaidd a Chymraes ydy ei fam. Mae'n byw yn Nhrecelyn ger Cwmbran yn ne bwrdeistref sirol Torfaen ac mae'n cael ei hyfforddi gan ei dad.
Dechreuodd baffio yn broffesiynol yn 1993, ac enillodd pob un o'i 46 o ornestau dros yrfa a barodd bymtheg mlynedd. Yn 2006, cafodd ei enwebu gan y cylchgrawn The Ring fel un o'r 10 paffiwr gorau'r byd. Ychwanegodd yn Nhachwedd 2007 goron uwch-ganol y WBA a'r WBC at goron y WBO a oedd ganddo eisioes. Nid oes unrhyw un yn y categori uwch-ganol wedi llwyddo i fod yn bencampwr byd cyhyd. Camodd i fyny i'r adran is-drwm yn 2008.
Bywyd cynnar a'i yrfa amatur
[golygu | golygu cod]Ganwyd Joseph William Calzaghe yn fab i Enzo a Jaqueline Calzaghe yn Hammersmith, Llundain, ar 23 Mawrth 1972. Symudodd y teulu i Drecelyn, ger Cwmbran, pan oedd yn ddwy oed. Roedd yn ddisgybl yn y Roots School System. Dechreuodd baffio pan oedd yn naw oed. Mewn dros 120 o ornestau amatur, enillodd bedwar gwobr ABA i fechgyn ysgol, ynghyd â thri gwobr ABA Prydeinig i oedran hyn, a hynny'n olynol.
Yr ornest olaf
[golygu | golygu cod]Yng Ngorffennaf 2008, wedi iddo ef a Frank Warren wahanu, fe gyhoeddwyd yn swyddogol o fwriad iddo ef â Roy Jones Jr. baffio ym mhencampwriaeth 'The Ring Magazine; Light-Heavyweight yn Efrog Newydd (Madison Square Garden ar Fedi'r 20ed, 2008. Gan i Calzaghe frifo'i law dde, gohiriwyd yr ornest tan 8 Tachwedd, 2008.
Yn yr ornest hon, o flaen cynulleidfa o 14,512 (a miliynau dros y cyfryngau), Calzaghe fu'n fuddugol (ar bwyntiau). Mae felly wedi curo pob gorchest baffio ar hyd ei yrfa, hyd yma: 46 ohonynt. Ar ôl yr ornest, pan gafodd gwestiwn ynglŷn ag ymddeol dywedodd, "I am going to sit down with my family, take some time and think about it."
Ymddeol
[golygu | golygu cod]Mae wedi ymddeol o baffio ers Chwefror 2009. Dim ond 4 paffiwr erioed sydd wedi ymddeol heb eu curo.
Teledu
[golygu | golygu cod]Yn 2007, enillodd Calzaghe wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC gyda 28.1% o bleidlais y cyhoedd. Enillodd y wobr honno gan BBC Cymru yn 2001, 2006 a 2007.
Bu'n cystadlu yn y gyfres Strictly Come Dancing yn 2009 gyda'i gymar Kristina Rihanoff.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Rhagflaenydd: Tanni Grey-Thompson |
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 2001 |
Olynydd: Mark Hughes |
Rhagflaenydd: Gareth Thomas |
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 2006 & 2007 |
Olynydd: Shane Williams |