John Thomas (ffotograffydd)
John Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 14 Ebrill 1838 Llanbedr Pont Steffan |
Bu farw | 14 Hydref 1905 Lerpwl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ffotograffydd |
Adnabyddus am | Ffotograffau gan John Thomas |
Plant | William Thelwall Thomas |
Ffotograffydd o Gymru oedd John Thomas (14 Ebrill 1838 – 14 Hydref 1905).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Cafodd ei eni a'i fagu yng Nghellan, Ceredigion, yn fab i labrwr. Yn 1853 symudodd y i Lerpwl, a bu'n gweithio mewn siop defnydd am ddeg mlynedd. Fe effeithiodd hyn ar ei iechyd, a gorfu iddo chwilio am waith allan yn yr awyr iach. Roedd ei ail fab, William Thellwall Thomas (1865 - 1927), yn llawfeddyg yn Lerpwl.[1]
Ffotograffiaeth
[golygu | golygu cod]Ar ddiwedd y 1860au cafodd waith gyda chwmni teithio yn sgwennu ac yn tynnu lluniau enwogion. Roedd y math yma o waith, ar y pryd, yn newydd iawn. Sylweddolodd mai cymharol brin oedd y ffotograffau o Gymry, felly dechreuodd arbenigo mewn tynnu a gwerthu lluniau o weinidogion. Erbyn 1867, roedd yn ddigon hyderus i ddechrau ar ei liwt ei hun, a gwnaeth hyn am gyfnod o dros 40 mlynedd dan yr enw: The Cambrian Gallery.
Pan ymddeolodd o'i waith, prynwyd dros 3,000 o'i luniau gan Syr O. M. Edwards er mwyn eu defnyddio yn ei gylchgronnau megis Cymru. Ceir dros 4,000 o'i ffotograffau yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Casgliad John Thomas yn y Llyfrgell Genedlaethol
[golygu | golygu cod]gyfryngau sy'n berthnasol i:
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi rhoi copiau o'r delweddau sydd yng Nghasgliad John Thomas ar Gomin Wicimedia.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-Lein; adalwyd 05 Rhagfyr 2013