Joseph Chamberlain
Joseph Chamberlain | |
---|---|
Ganwyd | 8 Gorffennaf 1836 Llundain |
Bu farw | 2 Gorffennaf 1914 o strôc Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Arweinydd yr Wrthblaid, Ysgrifennydd Gwladol dros y Trefedigaethau, Llywydd y Bwrdd Masnach, President of the Local Government Board, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Lord Mayor of Birmingham |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol, Y Blaid Unoliaethol Ryddfrydol, y Blaid Geidwadol |
Tad | Joseph Chamberlain |
Mam | Caroline Harben |
Priod | Mary Crowninshield Endicott Chamberlain, Florence Kenrick, Harriet Kenrick |
Plant | Neville Chamberlain, Austen Chamberlain, Beatrice Chamberlain, Ida Chamberlain, Hilda Chamberlain, Ethel Chamberlain |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
llofnod | |
Roedd Joseph Chamberlain (8 Gorffennaf 1836 – 2 Gorffennaf 1914), yn ddyn busnes a gwleidydd. Gweithiodd i ddiwygio addysg ac i wella dinasoedd. Roedd yn Aelod Seneddol o 1876 i 1914, gan wasanaethu fel yr Ysgrifennydd y Trefedigaethau o 1895 i 1903. Enillodd ei fab Austen Gwobr Heddwch Nobel a bu mab arall iddo Neville yn Brif Weinidog 1937-1940.
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Chamberlain yn Camberwell Llundain, yn fab i Joseph Chamberlain, gwneuthurwr esgidiau a Caroline (née Harben)
Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Coleg y Brifysgol, Euston, gan ymadael a'r ysgol yn 16 oed.[1]
Fe fu yn briod teirgwaith Ym 1861 fe briododd Hariett Kenrick, Merch Archibald Kenrick, Neuadd Wynn, Riwabon. Bu iddynt un ferch ac un mab; bu Harriet farw ym 1863 wrth esgor ar eu mab Joseph Austen Chamberlain.
Ym 1868 priododd Florence Kenrick, cyfnither ei wraig gyntaf, bu iddynt bedwar o blant gan gynnwys Arthur Neville Chamberlain a anwyd ym 1869. Ym 1875 bu Florence farw wrth esgor ar bumed plentyn, bu'r plentyn farw o fewn diwrnod i'w geni hefyd.
Ym 1888 priododd ei drydedd wraig Mary Crownshield Endicott, merch Ysgrifennydd Rhyfel yr UDA, William Endicott.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Wedi ymadael a'r ysgol aeth Joseph i weithio fel prentis yn ffatri gwneud esgidiau ei dad, dwy flynedd yn niweddarach aeth i weithio yn ffatri gwneud sgriwiau ei ewyrth ym Mirmingham gan ddod yn bartner yn y busnes maes o law; tyfodd y busnes i fod yn un fwyaf o'i fath yn ynysoedd Prydain gan gynhyrchu 2 o bob 3 sgriw a gynhyrchwyd yn Lloegr a gan allforio sgriwiau i bob parth o'r byd.[2]
Gyrfa fel gwleidydd lleol
[golygu | golygu cod]Ym 1866 ceisiodd Llywodraeth Ryddfrydol yr Arglwydd Russell cyflwyno deddf diwygio'r senedd ond trechwyd yr ymdrech gan fod rhai aelodau o'i blaid yn y senedd yn credu byddai ehangu'r etholfraint yn peryglu'r drefn gymdeithasol, tra fo eraill yn ei blaid yn anhapus bod y mesur dim yn ddigon cryf gan nad oedd yn cynnig pleidlais i bob pen teulu nac yn cynnig pleidlais dirgel; roedd Chamberlain yn un o'r chwarter miliwn a fu'n gorymdeithio ym Mirmingham i fynnu ehangu nifer y pleidleiswyr ac i sicrhau bod y trefi mawr diwydiannol newydd, megis Birmingham yn cael cynrychiolaeth deg. Syrthiodd llywodraeth Rusell ac aeth y llywodraeth Ceidwadol newydd ati i gyflwyno Mesur Seneddol oedd bron yn dyblu nifer y pleidleiswyr o 1.4 miliwn i 2.4 miliwn.. Yn etholiad cyffredinol, 1868 bu Chamberlain yn ymgyrchu i sicrhau bod pleidleiswyr newydd Birmingham yn cefnogi'r ymgeiswyr Rhyddfrydol.
Yn Nhachwedd 1869 daeth yn aelod o Gyngor Dinas Birmingham. Fel cynghorydd bu'n ymgyrchu am brisiau tir rhatach i weithwyr cefn gwlad. Ym 1873 daeth yn Faer Birmingham[3] fel maer sicrhaodd bod y cyngor yn prynu’r cwmnïau nwy a dŵr oedd yn cyflenwi’r ddinas, er mwyn i'r dinasyddion cael dŵr glân a diogel. Darparodd parciau, ffyrdd, amgueddfeydd ysgolion a thai newydd ar gyfer pobl dlawd y ddinas.
Gyrfa Seneddol
[golygu | golygu cod]Ym 1876 daeth yn Aelod Seneddol Birmingham. Ym 1880, Penodwyd Chamberlain yn Llywydd y Bwrdd Masnach[4], sef gweinidog y llywodraeth a oedd yn gweithio i wella masnach. Gwnaeth cyfreithiau i helpu dinasoedd eraill i brynu cwmnïau preifat, fel roedd wedi ei wneud ym Mirmingham. Gweithiodd i wneud rhenti yn rhatach yn yr Iwerddon, a oedd yn drefedigaeth Brydeinig ar y pryd.
Erbyn y 1880au roedd nifer o Aelodau seneddol Rhyddfrydol yn dechrau dod i'r casgliad mae'r ffordd gorau o ddelio efo'r Cwestiwn Gwyddelig byddid trwy roi elfen o ymreolaeth i'r Iwerddon. Roedd Chamberlain yn anghytuno, gan hynny fe ffurfiodd blaid newydd Y Blaid Unoliaethol Ryddfrydol, a bu'r Unoliaethwyr Rhyddfrydol yn rhannu grym gyda'r Ceidwadwyr.
Ym Mehefin 1895, cafodd Chamberlain ei benodi’n Ysgrifennydd y Trefedigaethau, sef y gweinidog oedd yn gyfrifol am reoli'r hyn a ddigwyddodd yn Nhrefedigaethau'r Ymerodraeth Brydeinig. Gan fod llawer o wledydd Ewrop, yn enwedig yr Almaen a Ffrainc yn tyfu'n gryfach, roedd Chamberlain yn awyddus bod pob gwlad yn yr Ymerodraeth Brydeinig yn gweithio gyda'i gilydd. Roedd hefyd am i Brydain cymryd mwy o dir yn Affrica. Adeiladodd rheilffordd ar hyd rhan o'r afon Niger i helpu Cwmni Niger Frenhinol Prydain i dyfu.
Roedd Chamberlain hefyd am i Brydain i reoli De'r Affrica. Nid oedd y Boeriaid (ffermwyr yr Iseldiroedd) am i Brydain i reoli eu tir, ac ym 1899 fe wnaethant ymosod ar y Prydeinwyr, gan ddechrau'r Ail Rhyfel y Boer a barodd hyd 1902.
Ym 1898 ceisiodd Chamberlain gwneud cynghrair gyda'r Almaen, ond heb lwyddiant gan hynny aeth i geisio creu cynghrair gyda Ffrainc a arweiniodd at ffurfio'r Entante Cordialle ym 1904, a daeth i ben cannoedd o flynyddoedd o elyniaeth ac ymladd rhwng y ddwy wlad.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Ym 1906 trawyd Chamberlain efo strôc oedd yn gwneud yn anodd iddo barhau yn weithgar fel gwleidydd, er hynny parhaodd i wasanaethu fel AS hyd ei farwolaeth ym 1914[3]. Cafodd y teulu cynnig gwasanaeth coffa gwladol iddo yn Abaty Westminster ond gan fod Chamberlain wedi bod yn driw i achos yr Undodiaid trwy ei oes, gwrthodwyd y cynnig a chynhaliwyd yr angladd mewn capel undodiaid ym Mirmingham.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "JOSEPHCHAMBERLAIN - Barry Dock News". South Wales Advertising, Printing, and Publishing Company. 1902-11-07. Cyrchwyd 2015-07-08.
- ↑ "JOSEPHCHAMBERLAIN - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1896-02-20. Cyrchwyd 2015-07-08.
- ↑ 3.0 3.1 "JOSEPH CHAMBERLAIN - Y Clorianydd". David Williams. 1914-07-08. Cyrchwyd 2015-07-08.
- ↑ "Marw Mr Chamberlain - Y Clorianydd". David Williams. 1914-07-08. Cyrchwyd 2015-07-08.