Liam Ó Flaitheartaigh
Liam Ó Flaitheartaigh | |
---|---|
Ganwyd | 28 Awst 1896, 28 Ebrill 1896, 19 Ebrill 1897, 1896 Inis Mór |
Bu farw | 7 Medi 1984, 7 Gorffennaf 1984 Dulyn |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | sgriptiwr, llenor, nofelydd, dramodydd |
Priod | Margaret Barrington |
Gwobr/au | Gwobr Goffa James Tait Black |
Llenor Gwyddelig, yn ysgrifennu mewn Saesneg a Gwyddeleg, oedd Liam Ó Flaitheartaigh neu Liam O'Flaherty (28 Awst 1896 – 7 Medi 1984). Ystyrir ef yn un o nofelwyr ac awdur storïau byrion pwysicaf yr Adfywiad Gwyddelig.
Ganed ef ym mhentref Gort na gCapall ar ynys Inis Mór yn Ynysoedd Arann. Fel y rhan fwyaf o boblogaeth yr ynys, roedd y teulu yn Wyddeleg ei iaith, ond nid oedd ei deulu yn gefnogol i'r iaith. Yn 1908 ymadawodd i fynd i nifer o golegau, yn cynnwys Prifysgol Dulyn. Ymddengys ei fod wedi bwriadu mynd yn offeiriad, ond yn 1917 ymunodd a'r Fyddin Brydeinig a bu'n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Wedi'r rhyfel, symudodd i'r Unol Daleithiau, lle bu'n byw yn Hollywood am gyfnod. Roedd y cyfarwyddwr ffilmiau John Ford yn gefnder iddo, ac yn ddiweddarach gwnaeth ffilm o nofel Ó Flaitheartaigh, The Informer.
Cyhoeddodd Ó Flaitheartaigh ei nofel gyntaf, Thy Neighbour's Wife, yn 1924. Ystyrir Dúil, a gyhoeddodd tua diwedd ei oes, yn un o lyfrau gorau yr iaith Wyddeleg yn yr 20g. Bu farw yn 88 oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ James M. Cahalan (1991). Liam O'Flaherty: A Study of the Short Fiction (yn Saesneg). Twayne. t. 160. ISBN 9780805783124.