Llangybi, Ceredigion
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 653, 601 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,850.99 ha |
Cyfesurynnau | 52.1592°N 4.0359°W |
Cod SYG | W04000384 |
Cod OS | SN578478 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
- Erthygl am bentref yng Ngheredigion yw hon. Gweler hefyd Llangybi (gwahaniaethu).
Pentref bychan, cymuned a phlwyf eglwysig yn ne Ceredigion yw Llangybi. Saif ar ffordd yr A485 rhwng Tregaron i'r gogledd a Llanbedr Pont Steffan i'r de, milltir a hanner o bentref Betws Bledrws.
Llifa Afon Dulas heibio i'r pentref i ymuno yn afon Teifi ger Llambed.
Mae Llangybi yn un o dri phentref yng Nghymru sy'n dwyn enw Sant Cybi (6g?). Byddai cleifion yn ymolchi yn Ffynnon Gybi ger yr eglwys a chysgu dan gromlech Llech Gybi gerllaw. Roedd y ffynnon yn ymarllwys i bwll gyda seddau o'i gwmpas.[1]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]
Ffynnon Wen
[golygu | golygu cod]Saif Ffynnon Wen (neu Ffynnon Gybi) 460 metr o'r eglwys, yn ne-orllewin y pentref (Cyfeirnod yr Arolwg Ordnans.[4] Credid ers talwm fod ei dŵr yn iacháu sgyrfi a gwynegon yn ogystal ag anhwylder yn y breichiau, coesau a'r llygaid.[5] Yn niwedd y 18g ysgrifennodd Edward Llwyd 'Mae'r trigolion yn dod at ei gilydd pob Difiau Dyrchafael, er mwyn ymolchi yn Ffynnon Gybi cyn cerdded draw i gromlech Llech Gybi sydd o fewn saethiad saeth o'r ffynnon. Yno, fe roddir y cleifion o dan y garreg, ac os daw cwsg - daw gwellhâd, os na ddaw cwsg - marwolaeth.'
Ar un cyfnos roedd iddo do a baddon i ddal y dŵr gyda llefydd eistedd o amgylch ei ymylon. Yn 1913 roedd mewn cyflwr lled dda.[6]
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9][10]
Enwogion
[golygu | golygu cod]- David Davis (Dafis Castellhywel), a aned yn ffermdy'r Goetre yn 1745.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2001), d.g. Cybi.
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ Gwefan Cyngor Sir Ceredigion; Cox, A.D.H. Haunted Britain, Hutchinson, 1973, tud. 148 979kb Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback adalwyd 23 Ionawr 2015
- ↑ Gwefan Cyngor Sir Ceredigion; Archifwyd 2021-06-20 yn y Peiriant Wayback adalwyd 23 Ionawr 2015
- ↑ Coflein; adalwyd 23 Ionawr 2015
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Trefi
Aberaeron · Aberteifi · Aberystwyth · Ceinewydd · Llanbedr Pont Steffan · Llandysul · Tregaron
Pentrefi
Aberarth · Aber-banc · Aber-ffrwd · Abermagwr · Abermeurig · Aber-porth · Adpar · Alltyblaca · Betws Bledrws · Betws Ifan · Betws Leucu · Bethania · Beulah · Blaenannerch · Blaenpennal · Blaenplwyf · Blaen-porth · Y Borth · Bow Street · Bronant · Bwlch-llan · Capel Bangor · Capel Cynon · Capel Dewi · Capel Seion · Caerwedros · Castellhywel · Cellan · Cilcennin · Ciliau Aeron · Clarach · Cnwch Coch · Comins Coch · Cribyn · Cross Inn (1) · Cross Inn (2) · Cwm-cou · Cwmystwyth · Cwrtnewydd · Dihewyd · Dôl-y-bont · Eglwys Fach · Felinfach · Y Ferwig · Ffair-rhos · Ffostrasol · Ffos-y-ffin · Ffwrnais · Gartheli · Goginan · Y Gors · Gwbert · Henfynyw · Henllan · Horeb · Llanafan · Llanarth · Llanbadarn Fawr · Llandre · Llandyfrïog · Llanddeiniol · Llanddewi Brefi · Llanfair Clydogau · Llanfarian · Llanfihangel y Creuddyn · Llangeitho · Llangoedmor · Llangrannog · Llangwyryfon · Llangybi · Llangynfelyn · Llangynllo · Llanilar · Llanio · Llan-non · Llanrhystud · Llansantffraid · Llanwenog · Llanwnnen · Llechryd · Lledrod · Llundain-fach · Llwyncelyn · Llwyndafydd · Llwyn-y-groes · Morfa · Mwnt · Nanternis · Penbryn · Penparc · Penrhiw-llan · Penrhyn-coch · Penuwch · Pen-y-garn · Plwmp · Pontarfynach · Ponterwyd · Pontgarreg · Pontrhydfendigaid · Pont-rhyd-y-groes · Pontsiân · Post-mawr · Rhydlewis · Rhydowen · Rhydyfelin · Rhydypennau · Salem · Sarnau · Southgate · Swyddffynnon · Talgarreg · Tal-y-bont · Temple Bar · Trefenter · Trefilan · Tremain · Tre-saith · Tre Taliesin · Troed-yr-aur · Ysbyty Ystwyth · Ystradaeron · Ystrad Meurig · Ystumtuen