Malawi
Gweriniaeth Malawi Dziko la Malaŵi (Chichewa) Charu cha Malaŵi (Chitumbuka) | |
Arwyddair | Undod a Rhyddid |
---|---|
Math | gweriniaeth, gwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad |
Enwyd ar ôl | Llyn Malawi |
Prifddinas | Lilongwe |
Poblogaeth | 18,622,104 |
Sefydlwyd | 6 Gorffennaf 1964 (Annibyniaeth oddi wrth Lloegr (y DU)) |
Anthem | Mulungu dalitsa Malaŵi |
Pennaeth llywodraeth | Lazarus Chakwera |
Cylchfa amser | UTC+2, Africa/Blantyre |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Chichewa |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dwyrain Affrica, De Affrica, Southeast Africa |
Gwlad | Malawi |
Arwynebedd | 118,484 km² |
Yn ffinio gyda | Sambia, Tansanïa, Mosambic |
Cyfesurynnau | 13°S 34°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Cabinet of Malawi |
Corff deddfwriaethol | National Assembly |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Malawi |
Pennaeth y wladwriaeth | Lazarus Chakwera |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Malawi |
Pennaeth y Llywodraeth | Lazarus Chakwera |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $12,602 million, $13,165 million |
Arian | Malawian kwacha |
Canran y diwaith | 8 canran |
Cyfartaledd plant | 5.129 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.512 |
Gwlad yn ne Affrica yw Gweriniaeth Malawi, neu Malawi (yn Saesneg: Republic of Malawi, yn Chichewa: Dziko la Malaŵi). Y gwledydd cyfagos yw Tansanïa i'r gogledd, Sambia i'r gorllewin, a Mosambic i’r de a'r dwyrain. Mae'n annibynnol ers 1964. Prifddinas Malawi yw Lilongwe.
Daearyddiaeth Malawi
[golygu | golygu cod]- Prif: Daearyddiaeth Malawi
Gwlad hir a chul, heb arfordir, yw Malawi. Mae rhan ogleddol y wlad ar ochr orllewinol Llyn Malawi. Yn y gogledd, saif rhwng Sambia yn y gorllewin a Tansanïa a Mosambic yn y dwyrain, yr ochr draw i Llyn Malawi. Yn y de, mae'r wlad yn ymestyn i mewn i Mosambic ar hyd dyffryn afon Shire. Nid oes gan Malawi arfordir, ond mae rheilffordd yn ei chysylltu a phorthladdoedd Nacala a Beira yn Mosambic.
Rhed y Dyffryn Hollt Mawr ar hyd y wlad o'r gogledd i'r de, a cheir nifer o lynnoedd yn y dyffryn. Llyn Malawi yw'r trydydd llyn yn Affrica o ran arwynebedd. Llifa afon Shire o ben deheuol y llyn i ymuno ag afon Zambezi yn Mosambic. Bob ochr i'r Dyffryn Hollt, mae'r wlad yn un fynyddig. Yn y gogledd, mae Ucheldir Nyika yn cyrraedd 2,600 medr uwch lefel y môr, ac i'r de o Lyn Malawi mae Ucheldiroedd Shire, sy'n cyrraedd uchder o 2,130 m ar Ucheldir Zomba a 3,002 m ym Mynyddoedd Mulanje.
Mae dwysder poblogaeth Malawi yn uchel i wlad yn Affrica. Y ddinas fwyaf, yn ôl pob tebyg, yw Blantyre, gyda phoblogaeth o tua 500,000, tra mae poblogaeth y brifddinas, Lilongwe, dros 400,000. Mae'r tywydd yn drofannol, gyda tymor glawog rhwng Tachwedd ac Ebrill, ac ychydig iawn o law rhwng Mai a Hydref. Ar y tir isel ceir tymheredd o tua 27° to 29 °C rhwng Medi ac Ebrill, a tua 23° rhwng Mai a Medi.
Hanes Malawi
[golygu | golygu cod]- Prif: Hanes Malawi
Cafwyd hyd i olion hominid yn dyddio'n ôl tua miliwn o flynyddoedd yn yr ardal yma, ac roedd pobl gynnar yn byw ar lannau Llyn Malawi 50,000 i 60,000 o flynyddoedd yn ôl. Gelwir y trigolion cynnar yr Akufula neu'r Batwa. Hwy oedd yn gyfrifol am yr arlunwaith craig i'r de o Lilongwe, yn Chencherere a Mphunzi.
Yn ystod y 16g, sefydlwyd gwladwriaeth Maravi gan gangen o'r bobloedd Bantu o gwmpas Llyn Malawi. Dywedir fod yr enw "Malawi" yn dod o "Maravi". Tyfodd tiriogaeth y wladwriaeth i ymestyn o ardaloedd Tumbuka a Tonga yn y gogledd i ran isaf afon Shire yn y de, ac i'r gorllewin cyn belled a dyffrynoedd Luangwa a Zambezi. Roedd rheolwyr Maravi yn perthyn i dylwyth y Phiri, ac yn dwyn y teitl Kalonga. Manthimba oedd eu prifddinas. Prif iaith y Maravi oedd Chichewa.
Yn y 19g, symudodd nifer o bobloedd eraill i'r ardal. Daeth pobl y Ngoni, neu'r Angoni, o ardal Natal, yn yr hyn sy'n awr yn Dde Affrica, yn ffoi oddi wrth Ymerodraeth y Zulu, oedd yn ymestyn ei grym dan Shaka Zulu. Grŵp arall o fewnfudwyr oedd yr Yao neu Ayao, o'r hyn sy'n awr yn ogledd Mosambic. Cyn hir roedd y Maravi yn dioddef oherwydd ymosodiadau eu cymdogion, y Ngoni a'r Yao, ac yn aml yn cael eu gwerthu fel caethweision. Roedd yr Yao wedi troi at Islam, ac wedi datblygu partneriaeth a marsiandïwyr caethion Arabaidd.
Roedd y Portiwgeaid wedi ymsefydlu ar yr arfordir ers yr 16g, ond ymddengys mai'r Ewropead cyntaf i gyrraedd Llyn Malawi oedd David Livingstone yn 1859. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, sefydlodd cenhadon Albanaidd yn y wlad. Yn 1891, daeth y diriogaeth yn than o'r Ymerodraeth Brydeinig, ac yn 1907 rhoddwyd yr enw Nyasaland arni.
Yn ystod y 1950au, bu nifer o ymgyrchoedd i geisio ennill annibyniaeth. Un o'r arweinwyr oedd Dr Hastings Kamuzu Banda, a ddaeth yn Brif Weinidog pan ddaeth Malawi yn wlad annibynnol yn 1964, ac yn Arlywydd ddwy flynedd yn ddiweddarach. Dim ond un blaid a ganiateid, ac yn 1970, cyhoeddwyd Banda yn Arlywydd am Oes.
Yn 1993, pleidleisiodd pobl Malawi mewn refferendwm dros gael system ddemocrataidd, sydd wedi parhau ers hynny. Bingu wa Mutharika oedd yr arlywydd o 2004 tan ei farwolaeth yn Ebrill 2012.
Gwleidyddiaeth Malawi
[golygu | golygu cod]Iaith a diwylliant
[golygu | golygu cod]Yn ogystal â Saesneg mae Chichewa yn iaith swyddogol sy'n cael ei siarad gan 57.2% o'r boblogaeth. Yr ieithoedd brodorol eraill yw Chinyanja (12.8%), Chiyao (10.1%), Chitumbuka (9.5%), Chisena (2.7%), Chilomwe (2.4%), a Chitonga (1.7%). Ceir sawl iaith arall (3.6%). (Cyfrifiad 1998, CIA World Factbook).
Economi Malawi
[golygu | golygu cod]- Prif: Economi Malawi
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.