Marchogion Tiwtonaidd
Enghraifft o'r canlynol | urdd filwrol grefyddol, urdd ysbytwyr |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1190 |
Lleoliad | Acre, Fenis, Malbork Castle, Königsberg, Bad Mergentheim, Fienna |
Yn cynnwys | Schäffer, Livonian Order, knight of the Teutonic Order, Order of Dobrzyń, Livonian Brothers of the Sword, Marianer |
Pennaeth y sefydliad | Grand Master of the Teutonic Knights |
Sylfaenydd | Heinrich Walpot von Bassenheim |
Rhagflaenydd | Livonian Brothers of the Sword |
Pencadlys | Fienna |
Enw brodorol | Deutscher Orden |
Gwladwriaeth | Taleithiau'r Babaeth, Teyrnas Jeriwsalem, yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, State of the Teutonic Order, Duchy of Prussia, Teyrnas Prwsia, Ymerodraeth Awstria, Teyrnas Bafaria, Teyrnas Württemberg, Grand Duchy of Baden, Archddugiaeth Hessen, Cydffederasiwn Gogledd yr Almaen, Awstria-Hwngari, Teyrnas yr Eidal, Gweriniaeth Almaeneg-Awstria, Gweriniaeth Gyntaf Awstria, y Fatican, Awstria, yr Almaen |
Gwefan | http://www.deutscher-orden.at/, http://www.deutscher-orden.de/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Urdd o farchogion Cristnogol o'r Almaen oedd y Marchogion Tiwtonaidd neu'r Urdd Diwtonaidd. Chwaraeodd ran bwysig yn yr Oesoedd Canol wrth gynorthwyo Cristnogion ar bererindod i'r Tir Sanctaidd ac i wladychu gwledydd dwyrain y Baltig gan yr Almaenwyr.
Darfu i ddioddefiadau'r Cristnogion yn adeg y gwarchae ar Acre (1189–91) gyffroi cydymdeimlad y marsiandwyr yn Bremen a Lübeck, y rhai a wnaethant wasanaeth mor ragorol trwy sefydlu clafdai yn ystod y Drydedd Groesgad. Gyda caniatâd y Pab Clement III a'r Ymerawdwr Harri VI ffurfiodd Ffredrig, Dug Swabia yr urdd, Marchogion Tiwtonaidd y Santes Fair o Gaersalem. Nid oedd caniatâd i neb ymuno â'r urdd ond Almaenwyr o waedoliaeth uchel, gan i'r sefydlwyr gwreiddiol gael eu gwneud yn bendefigion, dybygid, cyn eu derbyn i mewn. Ar y cyntaf roedd yr aelodau oll yn lleygwyr, ond yn raddol gollyngwyd offeiriaid i mewn fel caplaniaid. Gwisg yr urdd oedd mantell wen â chroes ddu arni. Cymerai'r marchogion adduned o dlodi a diweirdeb, ond nid oeddid yn gofalu ond ychydig amdanynt mewn amseroedd diweddar.
Y lle cyntaf yr ymsefydlasant ynddo oedd Acre. Ar gwymp Teyrnas Caersalem, symudodd y prif swyddog i Fenis, ac oddi yno, ym 1309, i Marienburg ar lannau'r Vistula. Ymunodd yr urdd â Brodyr y Cleddyf yn Lifonia yn y flwyddyn 1237. Gyda chaniatâd y pab, cariasant ymlaen ryfel gwaedlyd ar lannau deheuol y Môr Baltig, yn y 13g, er cael y cenhedloedd a drigent yno dderbyn Cristnogaeth. Ymunodd rhyfelwyr o bob parth o Ewrop gyda hwynt yn y ganrif ddilynol, ac yn eu plith Harri IV, brenin Lloegr a thri chant o'i farchogion. Dechreuodd yr urdd adfeilio yn y 15g, a chwympodd mewn rhan oherwydd ymraniadau mewnol, ac mewn rhan o ganlyniad ymosodiadau gan y cenhedloedd cylchynol. Cymerwyd gorllewin Prwsia gan Zygmunt I, brenin Gwlad Pwyl, oddi ar y marchogion, a ffurfiwyd tiriogaethau yr urdd yn nwyrain Prwsia yn dalaith dan Albert o Brandenburg, a'i olynwyr. Yna symudodd y prif swyddog i Mergentheim yn Swabia, yr hwn a gydnabyddid fel tywysog o'r ymerodraeth. Pan wnaed Heddwch Presburg, ym 1805, trosglwyddwyd i ymerawdwr Awstria hawliau a chyllid y prif feistr, ond ym 1809 diddymwyd yr urdd gan Napoleon, ac aeth y tiroedd perthynol iddo yn feddiant i benaduriaid y gwledydd lle y digwyddent fod. Mae'r urdd Diwtonaidd, fodd bynnag, yn bod mewn rhyw ffurf yn Awstria eto, ac ers 1929 urdd gwbl grefyddol ydyw.