Neidio i'r cynnwys

Matthew Gravelle

Oddi ar Wicipedia
Matthew Gravelle
Ganwyd24 Medi 1976 Edit this on Wikidata
Porthcawl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata
PriodMali Harries Edit this on Wikidata

Actor ffilm a theledu o Gymru yw Matthew Ian Gravelle (ganwyd 24 Medi 1976).[1]

Ganwyd Gravelle ym Mhorthcawl. Yn 2003, ymddangosodd yn y ddrama gyfres Holby City ac roedd yn actor rheolaidd yn y gyfres ddrama Belonging ar BBC Wales am ddwy gyfres. Mae ei ymddangosiadau arall ar deledu yn cynnwys Casualty, Caerdydd a Judge John Deed. Ymddangosodd yn "End of Days", diweddglo'r gyfres gyntaf o Torchwood fel doctor yn trin achosion o'r Pla Du.[2] Yn ddiweddarach fe roedd yn actor llais yn y ddrama radio "The Dead Line" oedd yn rhan o fyd Torchwood a ddarlledwyd ar BBC Radio 4 yng Ngorffennaf 2009.

O 2007 fe chwaraeodd y gangster Lyn Edwards, prif gymeriad cyfres deledu Y Pris, a elwid "Y Sopranos ger y môr".[3] Am y rôl cafodd ei enwebu am yr Actor Gorau yng ngwobrau BAFTA Cymru 2010.[4]

Serennodd Gravelle yn y ffilm Patagonia (2010) ac yng nghyfres Baker Boys ar  BBC Wales fel Rob, cyd-reolwr Valley Bara a dyweddi Sarah (Eve Myles). Yn 2013, fe'i castiwyd yn y ddrama drosedd llwyddiannus Broadchurch  ar ITV fel Joe Miller, gwraig cymeriad Olivia Colman.[5] Yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn fe ymddangosodd yn y ddrama dditectif Y Gwyll, sydd hefyd yn serennu ei wraig Mali Harries.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Mae Gravelle yn briod a'r actores Mali Harries. Mae'r cwpl wedi chwarae eu priod/partner ar y sgrîn mewn sawl sioe deledu.[6]

Yn 2009, fe'i rhestrwyd yn The Western Mail fel y 24ain dyn mwya rhywiol yng Nghymru.[1]

Ffilmyddiaeth

[golygu | golygu cod]
Ffilm
Blwyddyn Gwaith Rhan Nodiadau
2007 The Mark of Cain Chaplain
2010 Patagonia Rhys
2014 Son of God Thomas
Teledu
Blwyddyn Sioe Rhan Nodiadau
1999–2002 Nuts and Bolts Will
2000 The Scarlet Pimpernel Joseph Mallard William Turner 1 bennod
2001 Hearts and Bones Meridith 1 bennod
2001–2002 The Bench Gareth
2003 Holby City Dean Shepherd 1 bennod
2003–2004 Belonging Andy Owen Cyfres 4 & 5
2005–2008 Con Passionate Eurof
2005 Love Soup Paul Gilpin 1 bennod
2006 Caerdydd Gareth Pritchard 2 bennod
2006 Casualty Phil Radcliffe 1 bennod
2007 Torchwood Doctor 1 bennod, "End of Days"
2007 Judge John Deed Corporal Dewi Jones 2 bennod, "War Crimes" Rhan 1 & 2
2007–2009 Y Pris Lyn Edwards Enwebwyd - BAFTA Cymru am yr Actor gorau
2008 High Hopes Adam Mosley 1 bennod
2009 Collision DS Anthony Braydon 1 bennod
2010 All Shook Up! Simon Fuller
2010 Pen Talar Steffan Watkins 5 pennod
2011 Baker Boys Rob 5 pennod
2011 The Bible Thomas 3 pennod
2011–2013 Teulu Huw Rees
2013 Reit Tu Ôl i Ti Dewi
2013 Y Gwyll Wyn Bratton 2 bennod; hefyd yn serennu yn y fersiwn Saesneg Hinterland.
2013–2017 Broadchurch Joe Miller 3 chyfres
2014 35 Diwrnod Patrica Prif ran; cyfres 1
2014 Rosemary's Baby Howard 1 bennod
2016–presennol Byw Celwydd Harri James Prif ran
2016 New Blood Gwynn Hughes 1 episode
2016 Ordinary Lies Aaron 1 bennod, cyfres 2
2017 Un Bore Mercher Terry Price Prif ran; hefyd yn serennu yn y fersiwn Saesneg Keeping Faith.
2018 Doctor Who Llais o Kerblam 1 bennod
2018 Morfydd Ernest Jones Prif ran
2018 Pluen Eira Clive Ffilm Nadolig
2019 The Widow Joshua Peake Prif ran
Radio
Blwyddyn Gwaith Rhan Nodiadau
2009 Torchwood: Asylum Gwarchodwr diogelwch BBC Radio 4
2010 The LL Files Ddim ar gael BBC Radio Wales
2011 Wedding of the Year Ddim ar gael BBC Radio Wales
2012 The Diary of Samuel Pepys Mr Jervas BBC Radio 4[7]
2013 Deep Country Narrator BBC Radio 4
2015 Ring Mitchell Hooper BBC Radio 4
Gemau fideo
Blwyddyn Gwaith Rhan Nodiadau
2013 Ni No Kuni: Wrath of the White Witch Surly
2014 Dragon Age: Inquisition Abelas
2015 Jaws of Hakkon Ameridan
2015 Company of Heroes 2: The British Forces Sapper
2015 The Witcher 3: Hearts of Stone Ewald Borsodi
2016 Hitman Sawl cymeriad
2018 Dragon Quest XI Jasper

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Rees, Claire (14 Tachwedd 2009). "Wales 50 Sexiest Men 2009". The Western Mail. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Tachwedd 2012. Cyrchwyd 18 November 2011.
  2. Russell T Davies, Chris Chibnall, Ashley Way (1 January 2007). "End of Days". Torchwood. BBC Three.
  3. Marsh, Gary (27 November 2007). "TV writer Tim Price is becoming a big deal". Pontypridd Observer. Cyrchwyd 18 November 2011.
  4. Price, Karen (21 May 2010). "Why Bafta Cymru 2010 is a family affair". The Western Mail. Cyrchwyd 18 November 2011.
  5. "Broadchurch actor Matthew Gravelle on keeping one of TV's biggest secrets". The Western Mail. 17 Mawrth 2013.
  6. "Wedding of the Year pair look back". The Western Mail. 9 April 2011.
  7. "15 Minute Drama: The Diary Of Samuel Pepys". BBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-25. Cyrchwyd 2015-12-16.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]