Neidio i'r cynnwys

Mischa Barton

Oddi ar Wicipedia
Mischa Barton
GanwydMischa Anne Marsden Barton Edit this on Wikidata
24 Ionawr 1986 Edit this on Wikidata
Hammersmith Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig Baner UDA UDA
Alma mater
Galwedigaethactor ffilm, actor plentyn, model, actor llwyfan, actor teledu, actor Edit this on Wikidata
MamNuala Quinn-Barton Edit this on Wikidata
PartnerBrandon Davis Edit this on Wikidata

Actores ffilm, teledu a llwyfan Prydeinig-Americanaidd yw Mischa Barton (ganwyd 24 Ionawr 1986)[1]. Dechreuodd ei gyrfa ar y llwyfan. Ei rôl ffilm fawr gyntaf oedd fel prif gymeriad Lawn Dogs (1997). Ymddangosodd mewn ffilmiau fel y gomedi ramantus Notting Hill (1999) a'r drama seicolegol The Sixth Sense (1999).

Cafodd Barton ei geni yn Ysbyty Queen Charlotte's a Chelsea yn Hammersmith,[2] Llundain, [1][3] yn ferch i[2] Nuala Quinn-Barton, [4] cynhyrchydd, a'i gŵr Paul Marsden Barton,[4] brocer cyfnewid tramor. [2] Mae ganddi hi ddwy chwaer, Hania Barton a Zoe Barton.[5] Cafodd Mischa Barton ei addysg gynnar yn Ysgol Ferched St. Paul yn Hammersmith. Aeth gwaith ei thad â'r teulu i Ddinas Efrog Newydd pan oedd Barton yn bum mlwydd oed. Yn 2006, [2] daeth yn ddinesydd brodoredig o'r Unol Daleithiau . [6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Mischa Barton Biography". TV Guide (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Medi 2009. Cyrchwyd 24 Awst 2009.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 "Mischa Barton". Hello (yn Saesneg). 24 Ionawr 1986. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Gorffennaf 2013. Cyrchwyd 15 Mehefin 2013.
  3. "Mischa Barton Biography" (yn Saesneg). Mischabarton.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2009. Cyrchwyd 24 Awst 2009.
  4. 4.0 4.1 Montiquem, Fabien (31 Mai 2007). "Mischa Barton hurts her parents". Thebosh.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 September 2009. Cyrchwyd 6 Awst 2009.
  5. "Profiles - The life of celebrities & royals, biographies, news, photos - HELLO!" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Medi 2015. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2017.
  6. Carroll, Lauren (13 Awst 2009). "Mischa Barton's TV career back on track". IrishCentral (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Hydref 2013. Cyrchwyd 15 Medi 2013.