Mwyaren
Mwyar duon | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Rosales |
Teulu: | Rosaceae |
Is-deulu: | Rosoideae |
Genws: | Rubus |
Is-enws: | Rubus (neu Eubatus) |
Rhywogaethau | |
Rubus fruticosus |
Ffrwyth bwytadwy yw mwyar duon sy'n tyfu ar fiaren (neu'r Rubus fruticosus) a cheir sawl math gwahanol. Mae'r gair "mieri" yn cyfeirio at y berth pigog hwnnw yn air a glywir ar lafar gwlad yn hytrach nag yn air a ddefnyddir yn y dosbarthiad gwyddonol. Mae'n blodeuo rhwng mis Mai a mis Awst. Mae'r blodau'n wyn neu'n binc a'r ffrwythau'n ddu neu'n biws tywyll.
Gellir defnyddio'r ffrwyth i wneud jam, win neu darten. Ceir dros 375 math gwanhanol ac mae llawer ohonyn nhw'n perthyn yn agos at ei gilydd.[1]
Ffenoleg
[golygu | golygu cod]Rydym yn ymddangos yn hel mwyar duon yn gynt heddiw na chanrif yn ôl.[2] Dyma’r holl gofnodion (“hel mwyar duon” - “picking blackberries) hyd yma. Os oes dau gofnod yn y flwyddyn yna cymerir y cyntaf yn unig. Mae’r patrwm yn drawiadol - Mae cofnod 1940* [saeth melyn] yn torri’r patrwm: Dyma’r cofnod hwnnw:
- 9 Awst 1940 Rhoddais y rhan fwyaf o heddiw i gasglu mwyar duon gyda fy mrawd a'i fachgen bach pedair oed. Cawsom fasgedaid lawn, oddeutu saith pwys. Yr oedd cyfraniad y bychan yn llawer mwy i'w gylla nag i'r fasged. Tystia ei wefysau a'i dafod i hynny.[3]
Dyma'r meteorolegydd Huw Holland Jones:
- 1940 was a good summer over Wales & Eng. June was very sunny (311hrs sun at Holyhead) & dry (19mm), July had av rain & above av. sun. Aug was very dry with av sun..so I suspect the early warmth & sun brought on the blackberries and the July rain helped them swell.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Huxley, A., ed. (1992). New RHS Dictionary of Gardening. Macmillan ISBN 0-333-47494-5.
- ↑ Bwletin Llên Natur rhifyn 43
- ↑ Dyddiadur y Parch JR Richards XM12309