Neidio i'r cynnwys

Nidum

Oddi ar Wicipedia
Nidum
Mathcaer Rufeinig, adeilad Rhufeinig, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaSilwriaid, Maridunum Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 75 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCwrt Herbert Edit this on Wikidata
SirBlaenhonddan Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.664706°N 3.813039°W Edit this on Wikidata
Cod OSSS747977 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwGM215 Edit this on Wikidata
Nidum: gweddillion porth deheuol y gaer.

Caer Rufeinig a godwyd yng Nghastell-nedd yw Nidum (Lladiniad o'r gair Brythoneg *Nid, sef 'Nedd'); cyfeiriad grid SS747977. Fe'i codwyd rhwng tua 75 ac 120 OC ar diriogaeth y Silwriaid fel rhan o rwydwaith o gaerau a ffyrdd ar draws de Cymru.

Fe'i canfuwyd yn agos i'r ystad dai a adnabyddir fel Roman Way, ar lan orllewinol Afon Nedd. Roedd y gaer yn gorchuddio ardal eang sy'n gorwedd dan feysydd chwarae Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin heddiw.

Codwyd caer bren yno tua'r flwyddyn 75 OC yng nghyfnod y llywodraethwr Julius Frontinus. Tynwyd y gaer gyntaf honno i lawr a chodi un o gerrig yn ei lle tua'r flwyddyn 120 OC, ond ymddengys mai bur fu ei barhad. Mae rhannau o'r pyrth deheuol a de-ddeheuol i'w gweld ac mae rhai rhannau eraill o'r safle wedi'u cloddio gan archaeolegwyr.[1]

Roedd yn mesur tua 525m wrth 525m ac yn ddigon mawr i fod yn wersyll i tua 500 o filwyr. Cysylltiai ffordd Rufeinig caer Nidum gyda Maridunum (Caerfyrddin) i'r gorllewin a Viroconium (Caerwrygion) i'r dwyrain.[2]

Mae darganfyddiadau o'r safle i'w gweld yn Amgueddfa Castell-nedd.

Mae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: GM215.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber & Faber, 1978), tud. 138.
  2. "Nidum". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-05-27. Cyrchwyd 2010-02-12.
  3. Cofrestr Cadw.

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]


Caerau Rhufeinig Cymru
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis