Ouarzazate
Math | tref, urban commune of Morocco |
---|---|
Poblogaeth | 79,218 |
Cylchfa amser | UTC+00:00 |
Gefeilldref/i | Maubeuge, Mardin |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Ouarzazate |
Gwlad | Moroco |
Uwch y môr | 1,151 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 30.9167°N 6.9167°W |
Cod post | 45000 |
Dinas ym Moroco yw Ouarzazate (Amazigh: Warzazat, Arabeg: ورزازات), sy'n brifddinas y dalaith o'r un enw yn rhanbarth Souss-Massa-Draâ yn ne canolbarth y wlad. Yn 2004 roedd ganddi boblogaeth o 56,616. Lleolir Ouarzazate ar uchder o 1,160 m yng nghanol llwyfandir noeth, i'r de o fynyddoedd yr Atlas Uchel. I'r de o'r ddinas mae'r anialwch yn cychwyn, rhan o'r Sahara, ac felly fe'i llysenwir yn "borth yr anialwch". Mae trwch y boblogaeth yn Ferberiaid, a nodweddir Ouarzazate a'r cylch gan y kasbahs niferus a godwyd ganddynt yn y gorffennol. Mae Ouarzazate yn denu ymwelwyr fel man cychwyn teithiau trwy Ddyffryn Draa a'r anialwch. Mae pentref caerog (ksar) Aït Benhaddou yn Safle Treftadaeth y Byd ar restr UNESCO.
Dyma ganolfan lleoliadau ffilm fwyaf Moroco. Saethwyd ffilmiau adnabyddus fel Lawrence of Arabia (1962), Star Wars (1977), The Living Daylights (1987), The Last Temptation of Christ (1988), The Mummy (1999), Gladiator (2000) a Kundun gan Martin Scorsese (1997) yn ardal Ouarazate.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan am Ouarzazate Archifwyd 2009-08-11 yn y Peiriant Wayback
- Ffilmiau a saethwyd yn Ouarzazate Archifwyd 2013-01-03 yn archive.today