PSR B1620-26c
Enghraifft o'r canlynol | unconfirmed exoplanet |
---|---|
Cytser | Scorpius |
Mae PSR B1620-26c (a elwir hefyd yn answyddogol Methwsela) yn blaned allheulol sy'n cylchio seren PSR B1620-26, pylseren fili-eiliad wedi ei lleoli o fewn y clwstwr crwn Messier 4 (M4), tua 12,400 o flynyddoedd goleuni i ffwrdd yng nghytser y Sgorpion. Dyma'r blaned hynaf yn Ngalaeth y Llwybr Llaethog, ein galaeth ni, i gael ei darganfod gan seryddwyr, gydag oedran o tua 12.7 biliwn o flynyddoedd.
Mae Methwsela yn cylchio pâr o sêr dwbl. Mae un ohonynt, y bylseren, yn seren niwtron sy'n chwyrlio mor gyflym fel ei bod yn gwneud 100 chwyldro o fewn pob eiliad. Mae'r ail seren yn gorrach gwyn. Mae'r pellter rhwng y ddwy seren yn 1 US (Uned Seryddol, rhyw 150 miliwn km), mwy neu lai yr un pellter sydd rhwng y Ddaear a'r Haul, ac maen nhw'n cylchio ei gilydd tuag unwaith bob hanner blwyddyn. Mae'r blaned dros ddwywaith (2.5 i fod yn fanwl) yn fwy na Iau, ac mae'n cylchio o bellter o ryw 23 US (3400 miliwn km), ychydig yn fwy na'r pellter rhwng Wranws a'r Haul. Mae pob cylchdro yn cymryd can mlynedd.
Gan fod y bylseren yn seren niwtron - sef seren sydd wedi cael uwchnofa - a chan nad ydy'n bosib i blaned oroesi'r fath ddigwyddiad, mae'n debyg roedd Methwsela yn cylchio'r corrach gwyn yn wreiddiol, cyn i'r seren honno gael ei dal gan y bylseren.