Neidio i'r cynnwys

Paëla

Oddi ar Wicipedia
Paëla valenciana
Paëla de marisco

Paëla (paella yn Sbaeneg ac yn Saesneg) yn bryd o fwyd reis Sbaenaidd sy'n dod yn wreiddiol o Valencia.

Paëla yw un o'r prydau mwyaf adnabyddus bwyd Sbaenaidd. Am y rheswm hwn, mae llawer o bobl nad ydynt yn Sbaenwyr yn ei ystyried yn fwyd cenedlaethol Sbaen, ond mae Sbaenwyr bron yn unfrydol yn ei ystyried yn ddysgl o ranbarth Valencia. Mae Valenciaid, yn eu tro, yn ystyried paella fel un o'r symbolau caiff eu hadnabod amdano.[1][2]

Mae paëla yn cymryd ei enw o'r badell draddodiadol lydan, fas a ddefnyddir i goginio'r ddysgl ar dân agored. Ystyr 'paella' yw "padell ffrio" yn iaith Valenciaidd.

Efallai fod gan y pryd o fwyd hwn wreiddiau hynafol, ond y ei ffurf fodern mae'n cael ei olrhain yn ôl i ganol y 19eg ganrif, yn yr ardal wledig o amgylch morlyn Albufera ger dinas Valencia, ar arfordir dwyreiniol Sbaen.[3]

Paëla valenciana yw paëla traddodiadol rhanbarth Valencia, y credir ei fod yn rysáit wreiddiol.[4] Mae'n cynnwys reis grawn crwn[5], bajoqueta a tavella (mathau o ffa gwyrdd), cig cwningen, cig cyw iâr, weithiau cig hwyaden, a garrofó (amrywiaeth o ffa wen)[6][7]. Weithiau defnyddir artisiog fel cynhwysion tymhorol. Defnyddir olew olewydd fel sylfaen, a defnyddir saffrwm ac (weithiau) rhosmari am, flas. Paëlla de marisco (paëla bwyd môr) yw paëla sy'n cyfnewid y cig am fwyd môr, ac yn hepgor ffa a llysiau gwyrdd. Mae paëla mixta (paëla cymysg) yn cyfuno cig a ffermir, bwyd môr, llysiau, ac weithiau ffa, gyda'r reis traddodiadol. Mae amrywiadau lleol poblogaidd eraill o baëla yn cael eu coginio ledled ardal Môr y Canoldir, gweddill Sbaen ac yn rhyngwladol.

Dechreuodd Mwriaid ffermio reis yn Sbaen Fwslimaidd tua'r 10fed ganrif.[8] O ganlyniad, roedd pobl leol dwyreiniol yr Penrhyn Iberia yn aml yn gwneud caserolau o reis, pysgod a sbeisys ar gyfer y teulu ac ar gyfer gwleddoedd crefyddol. Felly sefydlwyd arfer o fwyta reis yn Sbaen. Arweiniodd hyn at reis yn dod yn fwyd pob-dydd erbyn y 15fed ganrif. Wedi hynny, daeth yn arferiad i gogyddion yn cyfuno reis â llysiau, ffa a phenfras sych, yn creu pryd derbyniol ar gyfer y Grawys. Ar hyd arfordir dwyreiniol Sbaen caiff reis ei fwyta gyda physgod yn bennaf.[9][10]

Mae'r hanesydd bwyd Sbaenaidd Lourdes March yn nodi bod paëla yn symbol o undeb a threftadaeth dau ddiwylliant pwysig, y diwylliant Rhufeinig lle ddaw'r offer, a'r diwylliant Arabaidd lle ddaw'r bwyd sylfaenol.[11]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Paella, on the way to becoming a World Heritage Site". Generalitat Valenciana. Cyrchwyd 19 February 2020. For the Region of Valencia, paella is much more than a recipe, it is a ritual and an icon of our culture.[dolen farw]
  2. Panadero, Amparo (11 March 2019). "La paella valenciana quiere ser Patrimonio de la Humanidad". Diario16 (yn Spanish). Cyrchwyd 19 February 2020. En el caso de la paella valenciana, se trata de una tradición culinaria y social que constituye un icono de hospitalidad y un símbolo de unión e identidad valencianas ...CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. "Info about Paella on About.com". Spanishfood.about.com. 15 December 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-31. Cyrchwyd 19 February 2010.
  4. Saveur, "The Art of Paella" (accessed 21 July 2015)
  5. Paella Rice (accessed 12 April 2020)
  6. Phaseolus lunatus L. var. macrocarpus Benth.
  7. "La Bible de la Paella: The Garrofon". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-09-05. Cyrchwyd 5 September 2018.
  8. Watson, Andrew (1983). Agricultural innovation in the early Islamic world. Cambridge University Press. ISBN 0-521-06883-5.
  9. Olver, Lynne (16 September 2009). "The Food Timeline presents a history of paella". The Food Timeline. Cyrchwyd 19 February 2010.
  10. Tom Jaine (1989). The Cooking Pot: Proceedings. Oxford Symposium. t. 104. ISBN 978-0-907325-42-0.
  11. March, Lourdes (1999), "Paella", in Davidson, Alan, The Oxford Companion to Food, Oxford: Oxford University Press, pp. 566–567, ISBN 0-19-211579-0, https://archive.org/details/oxfordcompaniont00davi_0/page/566

[[Categori:Coginiaeth Sbaen]]