Pencampwriaethau Seiclo Ffordd y Byd, UCI
Pencampawriaethau'r byd ar gyfer rasio seiclo ffordd yw Pencampwriaethau Seiclo Ffordd y Byd, UCI, a gynhelir yn flynyddol gan yr Union Cycliste Internationale (UCI). Mae'n cynnwys rasys ar gyfer merched a dynion a sawl categori oedran ar gyfer ras ffordd a treial amser unigol, gan gynnwys y canlynol:
- Ras ffordd merched
- Treial amser merched
- Ras ffordd dynion
- Treial amser dynion
- Ras ffordd dynion odan-23
- Treial amser dynion odan-23
- Ras ffordd merched iau
- Treial amser merched iau
- Ras ffordd dynion iau
- Treial amser dynion iau
Cystadlir pob pencampwriaeth gan dimau cenedlaethol, yn hytrach na timau noddedig fel ddigwyddir yn y Tour de France. Caiff enillydd pob categori'r hawl i wisgo crys enfys wrth gystadlu mewn rasus o'r un categori yn y flwyddyn ganlynol.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cynhaliwyd y pencampwriaeth cyntaf ym 1921, ond yr unig ras a gystadlwyd oedd ar gyfer dynion amatur.[1] Cynhaliwyd y bencampwriaeth proffesiynol cyntaf ym mis Gorffennaf 1927 yn Nürburgring, Yr Almaen, lle gipiodd yr Eidalwr Alfredo Binda y deitl proffesiynol, a Jean Aerts o Wlad Belg y deitl amatur. Cystadlwyd pencampwriaeth y merched am y tro cyntaf ym 1958. Ni gyflwynwyd y pencampwriaethau treial amser tan 1994.
Tan 1995, roedd rasys arwahan ar gyfer reidwyr amatur a phroffesiynol, ac ym 1996, cyflwynwyd categori newydd ar gyfer reidwyr odan-23 i gymryd lle'r pencampwriaeth amatr a daeth y ras broffesiynol yn agored i bawb (ac yn ddiweddarach, reidwyr elit yn unig).
Ers 1995, cnhaliwyd y rasys tuag at ddiwedd y tymor rasio Ewropeaidd yn hwyr ym mis Medi, ar ôl y Vuelta a España fel rheol. Cyn hynnu, roedd wastad wedi ei chynnal yn ystod yr haf, yn hwyr ym mis Awst neu ar ddechrau mis Medi (heblaw 1970, pan gynhaliwyd yng nghanol y tymor yn yr haf).
Caiff y pencampwriaethau eu cynnal mewn gwlad gwahanol pob blwyddyn, gyda'r cwrs yn amrywio o un fflat sy'n ffafrio sbrintwyr, neu crws ymdonnog sy'n ffafrio dringwr neu reidiwr cyffredinol. Bydd fel arfer yn cael ei gystadlu ar gylched a chwblheir sawl cylch.
Mae pencampwriaeth y byd a dau o'r Grand Tours (y Giro d'Italia a'r Tour de France) yn ffurfio Coron Driphlyg Seiclo.
Pencampwriaethau
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-08-14. Cyrchwyd 2012-07-13.