Prambanan
Gwedd
Math | Hindu temple, Candi o Indonesia |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Indonesia |
Cyfesurynnau | 7.752°S 110.49122°E |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Temlau Hindŵaidd yng nghanolbarth Jafa, Indonesia yw Prambanan. Safant tua 18 km i'r dwyrain o Yogjakarta, ar y ffordd i Solo. Y fwyaf o'r temlau hyn yw Lara Jonggrang, a elwir yn aml, yn anghywir, yn "deml Prambanan".
Adeiladwyd y temlau tua 850 O.C., yn ystod cyfnod teyrnas Mataram. Maent wedi eu cysegru i Shiva. Dechreuwyd cloddio ar y safle yn 1893, a dechreuwyd ar y gwaith o adfer y temlau yn 1918.
Yn 1991, dynodwyd Prambanan yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.