Ranulf de Blondeville, 6ed Iarll Caer
Gwedd
Ranulf de Blondeville, 6ed Iarll Caer | |
---|---|
Ganwyd | 1170 Sir Drefaldwyn |
Bu farw | 1232 Wallingford |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | person milwrol |
Tad | Hugh de Kevelioc, 5ed Iarll Caer |
Mam | Bertrade de Montfort |
Priod | Constance, duchess of Brittany, Clemence de Fougeres |
Iarll Caer rhwng 1181 a'i farwolaeth oedd Ranulf de Blondeville, 6ed Iarll Caer. Roedd yn fab i Hugh de Kevelioc a Bertrade de Montfort o Evreux. Olynodd ei dad fel Iarll Caer pan oedd yn naw oed.
Roedd yn ffigwr dylanwadol iawn yng ngwleidyddiaeth Lloegr, yn enwedig wedi i'r bachgen Harri III ddod i'r orsedd yn 1216. Yn 1218 aeth ar y Bumed Groesgad ac ni ddychwelodd hyd 1220. Gwnaeth Ranulf gynghrair a Llywelyn Fawr, a phriododd merch Llywelyn, Elen a nai ag aer Ranulf, John de Scotia tua 1222.