Rhiwledyn
Math | pentir |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 141 metr |
Cyfesurynnau | 53.3247°N 3.7786°W |
Cod OS | SH8182 |
Penrhyn creigiog ar arfordir gogledd Cymru sy'n codi 141 metr (463 troedfedd) uwch lefel y môr yw Rhiwledyn a adnabyddir hefyd fel Trwyn y Fuwch, Trwyn y Gogarth neu'r Gogarth Fach (Saesneg: Little Orme), Cyfeirnod OS: SH8182. Mae'n un o ddau benrhyn calchfaen sy'n gorwedd yn nau ben Bae Llandudno, ym mwrdeistref sirol Conwy; Pen y Gogarth, i'r gorllewin, yw'r ail a'r mwyaf o'r ddau. Mae'n gorwedd rhwng Craig-y-don i'r gorllewin a Bae Penrhyn i'r dwyrain ac yn ffurfio pwynt gogledd-ddwyreiniol y Creuddyn.
Cyfeirio at greigiau'r penrhyn hwn o dir a wna'r enw hynafol 'Creigiau Rhiwledyn' neu 'Raulyn' fel y'i sillefid yn 1284.[1] Rhestrir pwynt uchaf y penrhyn yn gopa HuMP dan yr enw Creigiau Rhiwledyn.
Defnydd tir
[golygu | golygu cod]Mewn cyferbyniaeth â'r Gogarth dros y bae, ni chafodd Rhiwledyn ei ddatblygu ar gyfer cloddio copr na twristiaeth. Ond agorwyd chwarel calchfaen ganol y 1800au ar ochr Bae Penrhyn. Canolwyd y gwaith ym Mhorth Dyniewyd ac fe'i gwasanaethwyd gan dramffordd chwarel; daeth y chwarelu i ben ym 1936. Defnyddir rhai o'r llethrau isaf ar gyfer ffermio, fel porfa defaid yn bennaf.
Ers y 1970au mae creigiau'r gogledd yn boblogaidd gan ddringwyr sy'n ceisio sialens, ond mae'r dringo'n anodd ac yn gofyn am gryn brofiad gan fod y graig yn anniogel weithiau.
Ecoleg
[golygu | golygu cod]Mae rhannau o Riwledyn (yn bennaf Gwarchodfa Natur Rhiwledyn) yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae'n warchodfa adar yn ogystal, gyda wardeiniaid yn cadw golwg ar yr adar môr niferus. Gellir gweld yr adar hyn trwy gymryd taith ar hyd gwaelod y clogwynni mewn cychod bach, sy'n rhedeg o Landudno yn yr haf.
Rhed Llwybr Gogledd Cymru ar draws Rhiwledyn, gan ddefnyddio'r llwybrau cyhoeddus sy'n arwain i'r copa.
Hanes
[golygu | golygu cod]Bu pobl yn byw ar Riwledyn ar ddechrau Hen Oes y Cerrig, a chafwyd hyd i olion o'r cyfnod yn ogof Pant y Wennol.
Darganfuwyd celc bychan o waith metel Celtaidd o gyfnod Oes yr Haearn mewn ogof ar y penrhyn.
Yn yr Oesoedd Canol gorweddai Rhiwledyn yng nghwmwd y Creuddyn, cantref Rhos. Ceir adfeilion capel canoloesol cysegredig i'r 'Forwyn Fair o'r Penrhyn', ar y llethrau isaf ger Hen Neuadd Penrhyn; rhoddwyd gorau i'w ddefnyddio ym 1930 ac mae'r adfeilion mewn cyflwr drwg erbyn heddiw.
Ar 14 Ebrill 1587, cafwyd hyd i olion gwasg gudd, a ddefnyddiwyd i argraffu llenyddiaeth Gatholig mewn ogof ar Riwledyn, a gafodd ei defnyddio gan y reciwsant lleol Robert Pugh o'r Penrhyn a'i gaplan y Tad William Davies i argraffu Y Drych Cristianogawl (gan Robert Gwyn neu Gruffydd Robert), y llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi yng Nghymru. Llochesant yno i geisio dianc yr erledigaeth ar Gatholigion a gychwynwyd gan Elisabeth I o Loegr ym Mai 1586. {{clirio{{
Oriel luniau
[golygu | golygu cod]-
Yng nghanol y llun hwn, gellir gweld ogof gudd Rhiwledyn
-
Porth Dyniewaid
-
Chwarel Rhiwledyn
-
Yr ochr sy'n wynebu Bae Penrhyn
-
Llandudno o Orllewin Rhiwledyn
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007), t. 214
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Ivor Wynne Jones, Llandudno Queen of Welsh Resorts (Ashbourne, Swydd Derby: Landmark, 2002)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru: Rhiwledyn Archifwyd 2007-02-11 yn y Peiriant Wayback