Neidio i'r cynnwys

Rhyfel Bosnia

Oddi ar Wicipedia
Rhyfel Bosnia
Rhan o Ryfeloedd Iwgoslafia

Clocwedd o'r chwith: Adeilad y senedd yn Sarajevo yn llosgi wedi iddo gael ei fwrw gan dân tanciau Serbiaidd ym Mai 1992; Ratko Mladić gyda milwyr Serbaidd-Fosniaidd; milwr y Cenhedloedd Unedig o Norwy yn Sarajevo.
Dyddiad 1 Ebrill 1992 – 14 Rhagfyr 1995
Lleoliad Bosnia a Hercegovina
Canlyniad Cytundeb Dayton
  • Rhaniad mewnol Bosnia a Hercegovina yn ôl Cytundeb Dayton.
  • Gosod llu rhyngwladol IFOR dan arweiniad NATO i oruchwylio'r cytundeb heddwch.
  • Colledigion sifiliaid Bosniac ar raddfa eang.
  • O leiaf 100,000 yn farw a dros dwy filiwn wedi'u dadleoli.
Cydryfelwyr
1992–94:

Gweriniaeth Bosnia a Hercegovinaa


1994-95:

Baner Croatia Croatia

Gweriniaeth
Bosnia a Hercegovina
b

NATO
(ymgyrch fomio, 1995)

1992-94:

Gweriniaeth Groataidd Herzeg-Bosnia
(hyd at 1994)

Baner Croatia Croatia


1992-94:

Republika Srpska
Gweriniaeth Ffederal Iwgoslafia

Talaith Ymreolaethol Gorllewin Bosnia (1993 ymlaen)

Arweinwyr
Alija Izetbegović
(Arlywydd Bosnia a Hercegovina)

Sefer Halilović
(Pennaeth Staff Byddin Gweriniaeth Bosnia a Hercegovina 1992-1993)

Rasim Delić
(Pennaeth Staff Byddin Gweriniaeth Bosnia a Hercegovina 1993-1995)

Baner Croatia Franjo Tuđman
(Arlywydd Croatia)

Croatia Janko Bobetko
(Pennaeth Staff Lluoedd Arfog Croatia 1992-1995)


Mate Boban
(Arlywydd Herzeg-Bosnia)

Milivoj Petković
(Pennaeth Staff Cyngor Amddiffyn Croatia)

Dario Kordić
(Is-arlywydd Herzeg-Bosnia)

  Slobodan Milošević
(Arlywydd Serbia)

Radovan Karadžić
(Arlywydd Republika Srpska)

Ratko Mladić
(Pennaeth Staff Byddin Republika Srpska)


Fikret Abdić (Arlywydd dros dro Talaith Ymreolaethol Gorllewin Bosnia)

Nerth
~100 o danciau
~200,000 o filwyr traed
~300 o danciau
~70,000 o filwyr traed
600-700 o danciau
120,000 o filwyr traed
Anafusion a cholledion
31,270 milwyr yn farw
33,071 sifiliaid yn farw
5,439 milwyr yn farw
2,163 sifiliaid yn farw
20,649 milwyr yn farw
4,075 sifiliaid yn farw
a Ar y pryd ni chefnogwyd Gweriniaeth Bosnia a Hercegovina gan y mwyafrif o Groatiaid Bosniaidd a Serbiaid Bosniaidd (oedd ag endidau eu hunain). O ganlyniad, roedd yn gynrychioli Bosniaciaid o fewn Bosnia a Hercegovina yn bennaf. Mae'r wladwriaeth gyfoes Bosnia a Hercegovina yn cynnwys y tri phrif grŵp ethnig Bosniaidd.

b Rhwng 1994 a 1995, cefnogwyd Gweriniaeth Bosnia a Hercegovina gan Fosniaciaid a Chroatiaid Bosniaidd ethnig, a chynrychiolwyd y grwpiau hynny gan y weriniaeth, yn bennaf oherwydd Cytundeb Washington.

Rhyfel rhyngwladol ym Mosnia a Hercegovina a barhaodd o fis Ebrill 1992 i fis Rhagfyr 1995 oedd Rhyfel Bosnia neu Ryfel Bosnia a Hercegovina. Prif frwydrwyr y gwrthdaro oedd lluoedd Gweriniaeth Bosnia a Hercegovina a lluoedd dau endid hunan-ddatganedig o fewn Bosnia a Hercegovina, Republika Srpska (oedd yn cynrychioli Serbiaid Bosniaidd) a Herzeg-Bosnia (oedd yn cynrychioli Croatiaid Bosniaidd). Derbyniodd Republika Srpska gefnogaeth wleidyddol a milwrol sylweddol gan Serbia, a Herzeg-Bosnia cefnogaeth gan Groatia.[1][2][3]

Daeth y rhyfel o ganlyniad i chwalu Iwgoslafia. Yn dilyn ymwahaniad Slofenia a Chroatia oddi ar Iwgoslafia ym 1991, pasiwyd refferendwm dros annibyniaeth gan weriniaeth Iwgoslafaidd Bosnia a Hercegovina ar 29 Chwefror 1992. Roedd gan y weriniaeth boblogaeth aml-ethnig, oedd yn cynnwys Bosniaciaid Mwslimaidd (44%), Serbiaid Uniongred (31%), a Chroatiaid Catholig (17%). Boicotwyd y refferendwm gan gynrychiolwyr gwleidyddol Serbaidd-Fosniaidd a gwrthodasant ei ganlyniad, gan sefydlu gweriniaeth eu hunain o'r enw Republika Srpska. Yn dilyn y datganiad annibyniaeth, ymosododd lluoedd Serbaidd-Fosniaidd ar Weriniaeth Bosnia a Hercegovina, gyda chefnogaeth llywodraeth Gweriniaeth Serbia dan Slobodan Milošević a Byddin Pobl Iwgoslafia (JNA), er mwyn sicrháu tiriogaeth Serbaidd. Dechreuodd rhyfel ar draws Bosnia, gyda glanhau ethnig yn erbyn y boblogaeth Fosniac, yn enwedig yn Nwyrain Bosnia.[4]

Gwrthdaro tiriogaethol oedd y rhyfel yn bennaf, yn wreiddiol rhwng Byddin Gweriniaeth Bosnia a Hercegovina, y mwyafrif o'i filwyr yn Fosniaciaid, a lluoedd Croataidd-Fosniaidd ar yr un ochr, a lluoedd Serbaidd-Fosniaidd ar yr ochr arall. Bwriadai'r Croatiaid hefyd i sicrháu rhannau o Fosnia a Hercegovina yn diriogaeth Groataidd.[5] Cytunodd yr arweinyddiaeth Serbaidd a Chroataidd i rannu Bosnia gyda chytundebau Karađorđevo a Graz, ac o ganlyniad trodd lluoedd Croataidd yn erbyn Byddin Gweriniaeth Bosnia a Hercegovina gan arwain at y Rhyfel rhwng y Croatiaid a'r Bosniaciaid.[6] Nodweddwyd y rhyfel gan ymladd chwerw, sielio diwahân o ddinasoedd a threfi, glanhau ethnig, trais rhywiol systematig ar raddfa eang, a hil-laddiad. Daeth digwyddiadau megis Gwarchae Sarajevo, gwersyll Omarska, a chyflafan Srebrenica i nodweddu'r gwrthdaro.

Er fod y Serbiaid yn wreiddiol yn uwchraddol o ran arfau ac adnoddau o ganlyniad i gefnogaeth y JNA, yn y bôn collasant grym pan ymunodd Bosniaciaid a Chroatiaid yn erbyn Republika Srpska ym 1994 gan greu Ffederasiwn Bosnia a Hercegovina yn sgîl Cytundeb Washington. Yn dilyn cyflafanau Srebrenica a Markale, ymyrrodd NATO yn ystod Ymgyrch Grym Bwriadol ym 1995 yn erbyn Byddin Republika Srpska gan ryngwladoli'r gwrthdaro yn ei gamau olaf.[7] Daeth y rhyfel i ben yn sgîl Cytundeb y Fframwaith Cyffredinol ar gyfer Heddwch ym Mosnia a Hercegovina ym Mharis ar 14 Rhagfyr 1995. Cynhaliwyd trafodaethau heddwch yn Dayton, Ohio, a phenderfynwyd ar Gytundeb Dayton ar 21 Rhagfyr 1995.[8] Yn ôl adroddiad o'r rhyfel a wnaed gan yr Asiantaeth Gwybodaeth Ganolog (CIA) ym 1995, lluoedd Serbaidd oedd yn gyfrifol am 90% o droseddau rhyfel yn ystod y gwrthdaro.[9] Erbyn 2008 cafwyd 45 o Serbiaid, 12 o Groatiaid, a 4 Bosniac yn euog o droseddau rhyfel yn gysylltiedig â Rhyfel Bosnia gan y Tribiwnlys Troseddol Rhyngwladol ar gyfer y cyn-Iwgoslafia.[10] Mae'r ymchwil diweddaraf yn awgrymu bu farw 100,000–110,000 o bobl[11][12][13] a dadleolwyd dros 2.2 miliwn,[14] gan ei wneud yn y gwrthdaro mwyaf ddifrodus yn Ewrop ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) ICTY: Conflict between Bosnia and Herzegovina and the Federal Republic of Yugoslavia.
  2. (Saesneg) ICTY: Conflict between Bosnia and Croatia.
  3. (Saesneg) ICJ: The genocide case: Bosnia v. Serbia - See Part VI - Entities involved in the events 235-241 (PDF).
  4. (Saesneg) ICTY: The attack against the civilian population and related requirements.
  5. (Saesneg) ICTY: Naletilić and Martinović verdict - A. Historical background.
  6. Silber, L (1997), Yugoslavia: Death of a Nation. Penguin Books, t.185
  7. (Saesneg) Sarajevo massacre remembered. BBC (5 Chwefror 2004).
  8. (Saesneg) Dayton Peace Accords on Bosnia. Adran Dramor yr Unol Daleithiau (30 Mawrth 1996).
  9. (Saesneg) Roger Cohen (9 Mawrth 1995). C.I.A. Report on Bosnia Blames Serbs for 90% of the War Crimes. The New York Times.
  10. (Saesneg) Karadzic Sent to Hague for Trial Despite Violent Protest by Loyalists. The New York Times.
  11. (2005) War-related Deaths in the 1992–1995 Armed Conflicts in Bosnia and Herzegovina: A Critique of Previous Estimates and Recent Results, European Journal of Population, Cyfrol 21 (yn en). Springer Netherlands, tud. 187–215. DOI:10.1007/s10680-005-6852-5URL
  12. (Saesneg) Research halves Bosnia war death toll to 100,000. Reuters (23 Tachwedd 2005).
  13.  Review of European Security Issues. Adran Dramor yr Unol Daleithiau (3 Mawrth 2006).
  14. (Saesneg) Jolie highlights the continuing suffering of the displaced in Bosnia. UNHCR (6 Ebrill 2010).