Richart de Fornival
Richart de Fornival | |
---|---|
Ganwyd | 10 Hydref 1201 Amiens |
Bu farw | 1260 Amiens |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Ffrainc |
Galwedigaeth | bardd, cyfansoddwr, meddyg, athronydd |
Adnabyddus am | Biblionomia, Bestiaire d'Amour, Li commenz d'amours, Li consaus d'amours, De arte alchemica, De vetula, Bestiaire d'Amour |
Llenor canoloesol o Ffrainc yn yr iaith Ffrangeg, casglwr llawysgrifau, a chlerigwr oedd Richart de Fornival, a adwaenir hefyd fel Richard de Fournival (10 Hydref 1201 - c. 1 Mawrth ?1260). Ei gyfrol enwocaf yw'r bwystori Bestiaire d'Amour ('Bwystori Serch') sy'n cynrychioli penllanw traddodiad seciwlar - gweithiau alegoriaidd Cristnogol yw'r rhan fwyaf o'r bwystoriau - sydd â'i wreiddiau yng ngwaith y trwbadwriaid.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Uchelwr o ardal Picardi oedd Richart, mab Rogier de Fornival a hanner-brawd Arnoul, esgob Amiens o 1236 hyd 1246. Yn 1240 roedd yn ganon yn Eglwys Gadeiriol Amiens, diolch i'w frawd efallai, a chofnodir iddo fod yn ganghellor yno yn 1246. Cofnodir hefyd iddo gael ei drwyddedu yn llawfeddyg gan y Pab Innocentius IV yn yr un flwyddyn. Bu farw ar 1 Mawrth, yn 1259 neu 1260 (yr olaf sydd fwy tebygol).[1]
Casglwr
[golygu | golygu cod]Roedd yn gasglwr llawysgrifau brwd. Cedwir y catalog o lyfrau ei gasgliad a ysgrifennodd yn ei law ei hun. Roedd ganddo tua 300 o lawysgrifau - cyfanswm eithriadol iawn i unigolyn yn yr Oesoedd Canol - sy'n cynnwys cyfrolau ar y trivium a'r quadrivium, athroniaeth, metaffiseg, meddygaeth, y Gyfraith (sifil ac eglwysig), yr Ysgrythurau, Tadau'r Eglwys a'r Clasuron. Mae llawer o'r llyfrau hyn yn Llyfrgell y Sorbonne, Paris, er 1272.[1]
Gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]Ysgrifennodd sawl llyfr ar alcemeg (cyhoeddodd draethawd Lladin ar y pwnc) a chyfrolau hyfforddiadol, didactig, ar serch. Yn y dosbarth olaf y mae'r Bestiaire d'Amour yn syrthio. Cyfuniad ydyw o ddeunydd naturiaethol a chwedlonol y bwystoriau traddodiadol ac esboniadau ar natur serch a'r llwybr i lwyddiant ym myd serch. Cafwyd cyfieithiadau Cymraeg o'r Bestiaire gan Gwilym Tew, Llywelyn Siôn ac eraill.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Graham C. G. Thomas (gol.), A Welsh Bestiary of Love (Dulyn, 1988)