Rugby Europe
Enghraifft o'r canlynol | corff llywodraethu chwaraeon rhyngwladol, corff llywodraethol rygbi'r undeb |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2 Ionawr 1934 |
Sylfaenydd | Italian Rugby Federation, French Rugby Federation, Swedish Rugby Union, German Rugby Federation, Romanian Rugby Federation, Portuguese Rugby Federation, Rugby Nederland, Spanish Rugby Federation, Belgian Rugby Federation, Catalan rugby union federation |
Aelod o'r canlynol | World Rugby |
Ffurf gyfreithiol | association déclarée |
Pencadlys | Paris |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Gwefan | https://www.rugbyeurope.eu/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rugby Europe ("Rygbi Ewrop"), a elwid gynt yn Gymdeithas Rygbi Ewrop (FIRA - AER), yw'r corff sy'n cyd-lynnu rygbi'r undeb yn Ewrop, 47 o gymdeithasau cenedlaethol yn aelodau ohoni. Mae "Rugby Europe" (arddelir y term Saesneg yn unig), yn ei dro, yn gysylltiedig â World Rugby, olynydd y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (IRB), corff llywodraethu rygbi ledled y byd fel un o'r 6 chymdeithas ranbarthol, cyfandirol.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae sefydlu Rugby Europe yn adlewyrchu gwleidyddiaeth rygbi fel gêm rynglwadol, ei thŵf a'r dadleuon dros dalu chwaraewyr i chwarae'r gamp.
FIRA (1934-1999)
[golygu | golygu cod]Ym 1931, gwaharddwyd Ffederasiwn Rygbi Ffrainc (FFR) rhag chwarae'r Pum Gwlad oherwydd bod awdurdodau chwaraeon wedi amau ers amser bod y (FFR) yn caniatáu proffesiynoldeb. O ganlyniad, sefydlodd Ffrainc, ynghyd â'r Eidal, Sbaen, Catalwnia, Gwlad Belg, Portiwgal, Romania, yr Iseldiroedd a'r Almaen, Gymdeithas Rygbi Rhyngwladol Amatur (Fédération internationale de rugby amateur, FIRA) ym 1934,[2] a ddyluniwyd i drefnu'r gystadleuaeth rygbi y tu allan i awdurdod y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (fel y'i gelwid ar y pryd).[3][4][5]
FIRA - A.E.R. (1999-2014)
[golygu | golygu cod]Yn yr 1990au cydnabuwyd yr IRB fel corff llywodraethu rygbi yn y byd ac ar ôl trafodaethau, cytunodd FIRA i ymuno â'r sefydliad. Yn 1999 newidiwyd yr enw i "FIRA - Cymdeithas Rygbi Ewrop" (FIRA-AER) i hyrwyddo a llywodraethu'r undeb rygbi yn y gofod Ewropeaidd a rhedeg Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd.
Rugby Europe (2014-presennol)
[golygu | golygu cod]Ym mis Mehefin 2014, yn ystod confensiwn blynyddol FIRA-AER yn Split, Croatia, penderfynwyd newid enw'r sefydliad i Rugby Europe i roi enw byr, mwy adnabyddadwy iddo [6] gan arddel yr enw Seasneg yn unig.
Nid yw pob aelod yn aelod o World Rugby. Diweddarwyd 2019.[7]
Ceir 40 aelod World Rugby
- Andorra (1991)
- Awstria (1992)
- Aserbaijan (2004)
- Gwlad Belg (1988)
- Bosnia-Hertsegofina (1996)
- Bwlgaria (1992)
- Croatia (1992)
- Cyprus (2014)
- Y Weriniaeth Tsiec (1988)
- Denmarc (1988)
- Lloegr (1890)
- Y Ffindir (2001)
- Ffrainc (1978)
- Georgia (1992)
- Yr Almaen (1988)
- Hwngari (1991)
- Iwerddon (1886)
- Israel (1988)
- yr Eidal (1987)
- Latfia (1991)
- Lithwania (1992)
- Lwcsembwrg (1991)
- Malta (2000)
- Moldofa (1994)
- Monaco (1996)
- Yr Iseldiroedd (1988)
- Norwy (1993)
- Gwlad Pwyl (1988)
- Portiwgal (1988)
- Rwmania (1987)
- Rwsia (1990)
- yr Alban (1886)
- Serbia (1988)
- Slofacia (2016)
- Slofenia (1996)
- Sbaen (1988)
- Sweden (1988)
- Y Swistir (1988)
- Wcrain (1992)
- Cymru (1886)
Ceir saith aelod o Rugby Europe nad sy'n aelodau o World Rugby:
Ceir chwe gwlad Ewropeaidd sydd ddim ar hyn o'r bryd yn gysylltiedig ag unau Rugby Europe na World Rugby:
- Albania
- Armenia
- Gwlad Groeg
- Kosovo
- North Macedonia
Cystadlaethau
[golygu | golygu cod]Rygbi'r Undeb 15 pob ochr
[golygu | golygu cod]Twrnament | Tymor ddiwethaf | Pencampwyr |
---|---|---|
Pencampwriaethau Rhyngwladol Rugby Europe 1A Pencampwriaeth (Championship) | RE Championship 2019 | Georgia |
Rugby Europe 1B Tlws (Trophy) | RE Trophy 2018-19 | Portiwgal |
Rugby Europe International Championships 2A Cynhadledd (Conference) | RE Conference 2017-18 | Lithwania |
RE International Championships Datblygu (Development) | RE Development 2017-18 | Bwlgaria |
RE dan-20 Championship | RE dan-20 Championship 2019 | Portiwgal (M20) |
Rugby Europe dan-18 Championship | Rugby Europe dan-18 Championship 2018 | Georgia (M18) |
Twrnament | Tymor ddiwethaf | Pencampwyr |
---|---|---|
European Championship Menywod | European Championship Menywod 2019 | Sbaen |
Rugby 7
[golygu | golygu cod]Cynheir hefyd cystadlaethau rygbi saith bob ochr.
Twrnament | Tymor ddiwethaf | Pencampwyr |
---|---|---|
"Sevens Grand Prix Series" | 2018" | Iwerddon Nodyn:Country data Irlanda |
Twrnament | Tymor ddiwethaf | Pencampwyr |
---|---|---|
Sevens Grand Prix Series Menywod | 2018 | Rwsia |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [1] Archifwyd 2015-08-17 yn y Peiriant Wayback WR - Regional Associations (en inglés)
- ↑ https://rugbipensador.files.wordpress.com/2008/04/acta_constitucio_fira.pdf
- ↑ [2] WR - FIRA Formed
- ↑ "About us" (yn Saesneg). 3 de octubre de 2016. Cyrchwyd 16 de mayo de 2018. Unknown parameter
|periódico=
ignored (help); Check date values in:|access-date=, |date=
(help) - ↑ "About us" (yn Saesneg). Unknown parameter
|obra=
ignored (|work=
suggested) (help) - ↑ FIRA-AER Becomes RUGBY EUROPE Archifwyd 2014-07-14 yn y Peiriant Wayback Nodyn:Wayback FIRA-AER website, published: 20 June 2014, accessed: 25 June 2014
- ↑ "Unions Members". Rugby Europe. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-28. Cyrchwyd 24 January 2019.