Rwsia Fawr
Gwedd
Map Americanaidd o 1894 yn dangos tiriogaethau Ymerodraeth Rwsia yn Nwyrain Ewrop, gan gynnwys rhanbarth "Rwsia Fawr" mewn melyn. | |
Math | ardal hanesyddol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Enw hanesyddol ar wlad "y wir Rwsia", hynny yw mamwlad frodorol y Rwsiaid ac hen diriogaeth Uchel Ddugiaeth Moscfa (Mysgofi), yw Rwsia Fawr. Câi'r enw ei gyferbynnu â Rwsia Fechan (hynny yw, Rwthenia neu Wcráin) a Rwsia Wen (Belarws). O 1654 i 1721, teitl swyddogol y tsar oedd "Sofran yr Holl Rws: y Fawr, y Fechan, a'r Wen". Yn hanesyddol, cyfeiriwyd at y Rwsiaid fel "Rwsiaid Mawr" a'u hiaith fel "Rwseg Mawr" i wahaniaethu oddi ar y bobloedd ac ieithoedd Slafonaidd dwyreiniol eraill.[1]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Nicholas V. Riasanovsky, Russian Identities: A Historical Survey (Rhydychen: Oxford University Press, 2005), t. 34.