Neidio i'r cynnwys

Shimla

Oddi ar Wicipedia
Shimla a'r rheilffordd fach sy'n ei chysylltu â Kalpa

Mae tref Shimla yn frynfa yn nhalaith Himachal Pradesh ac yn brifddinas y dalaith honno, yng ngogledd-orllewin India. Mae ganddi boblogaeth o 123,000 (1999).

Fel yn achos Darjeeling yng Ngorllewin Bengal, tyfodd Shimla i fod yn frynfa (hill-station) deniadol yn y 19g. Yn sgîl ennill annibyniaeth i India bu Shimla'n brifddinas y Punjab am gyfnod ond erbyn heddiw mae'n brifddinas "HP" (Himachal Pradesh).

Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.