Siôn Corn
Siôn Corn yw'r enw a ddefnyddir yn y Gymraeg am y cymeriad Nadoligaidd sy'n rhoddi anrhegion. Santa Clôs (o'r enw Santa Claus h.y. Sant Nicolas) mae rhai'n galw Siôn Corn; daw'r enw Siôn Corn o'r term 'corn simne'. Mae'n gwisgo dillad cynnes lliw coch a gwyn ac yn ymweld â phlant bach y byd unwaith y flwyddyn - ar ddydd Nadolig - "os ydyn nhw'n blant bach da". Mae'n dod ag ychydig o anrhegion iddyn nhw mewn hen sach. Honnir mai yn un o wledydd Sgandinafia - y Lapdir fel rheol - y mae'n byw. Dywedir hefyd gan rai ei fod yn briod i ferch o'r enw Siân a bod ganddo lawer o gorachod yn gweithio iddo, ac ambell garw i dynnu ei sled. Teithia o amgylch y byd ar noswyl Nadolig yn dosbarthu anrhegion i bobl. Mae ei sled yn cael ei dynnu gan nifer o geirw gwahanol ond efallai mai'r carw mwyaf adnabyddus yw Rwdolff, sydd â thrwyn coch sy'n goleuo er mwyn arwain Siôn Corn a gweddill y ceirw drwy'r noson dywyll.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae personoliad symbolaidd o'r Nadolig fel cymeriad Seisnig Father Christmas hen a llawen yn dyddio'n ôl i o leiaf 17g, yng nghyd-destun y gwrthwynebiad i feirniadaeth y Piwritaniaid o gadw gŵyl y Nadolig. Mae'r cymeriad yn "hen" i gynrychioli hynafiaeth yr ŵyl, a oedd yn hen arfer Cristnogol da yn ôl ei amddiffynwyr. Ceid alegori poblogaidd ar y pryd, ac felly rhoddwyd llais i'r "hen Nadolig" i brotestio'r gwaharddiad ynghyd â chreu'r cymeriad o hen ddyn llawen. Mae'n debygol mai'r personoliad cynharaf o'r Nadolig ydy'r cymeriad a grëwyd gan Ben Jonson yn y ddrama Christmas his Masque[1], Rhagfyr 1616: ynddi mae 'Nadolig' yn ymddangos yn gwisgo "round Hose, long Stockings, a close Doublet, a high crownd Hat with a Broach, a long thin beard, a Truncheon, little Ruffes, white shoes, his Scarffes, and Garters tyed crosse", ac yn datgan "Why Gentlemen, doe you know what you doe? ha! would you ha'kept me out? Christmas, old Christmas?" Yn ddiweddarach, mewn masque gan Thomas Nabbes, The Springs Glorie, a gynhyrchwyd yn 1638, mae "Nadolig" yn ymddangos fel hen ddyn parchus yn gwisgo gŵn a chap ffwr. Parhaodd y cymeriad i ymddangos dros y 250 mlynedd nesaf dan amryw o enwau. Nid oedd y Siôn Corn traddodiadol yn dod ag anrhegion nac yn gysylltiedig â phlant. Pan gyrhaeddodd cymeriad Santa Claus o America yn ystod yr oes Fictoraidd, cafodd ei gyfuno gyda chymeriadau Seisnig "Sir Christmas", "Lord Christmas" neu "Old Father Christmas" i greu "Father Christmas", y Siôn Corn sy'n gyfarwydd i bawb yng ngwledydd Prydain heddiw. Defnyddir y term Santa yn gyfystyr a Siôn Corn bellach, er y buont yn wreiddiol yn ddau gymeriad ar wahân.
Siôn Corn Cymraeg
[golygu | golygu cod]Santa Clôs byddai'r Cymreigiad o'r traddodiad a'r cymeriad Santa Claus/Father Christmas. Rhaid aros nes ysgrif gan J. Glyn Davies yn 1922 am y cofnod cynharaf o'r enw Cymraeg Siôn Corn am y cymeriad Nadolig.[2] Mae'n ymddangos mewn cyfrol o'r enw Cerddi Huw Puw gyda'r gerdd 'Pwy sy'n Dwad dros y Bryn'. Yn y cynnwys mae'n dweud 'Siôn Corn', ac wedyn mewn cromfachau, 'Santa Clôs Cymraeg'. Magwyd J. Glyn Davies yn Lerpwl yn yr 1870au ac roedd wedi tynnu ar traddodiad deuluol neu draddodiad lleol o ardal ei dad yn Edern, Penrhyn Lŷn (mae'n anodd dweud pa un) lle fyddai ei dad yn dweud fod "Siôn Corn yn y simnau ac mae o'n gwrando ar bob dim ti'n ddweud". Yn wahanol i'r Siôn Corn cyfoes felly, roedd y Siôn Corn yma yn byw yn y simnau drwy'r flwyddyn, ac yn ffordd o gael plentyn i'r gwely ac yn dda drwy'r flwyddyn. Cafwyd darluniad o Siôn Corn yn llyfr enwog, Llyfr Mawr y Plant yn 1931 ond dydy ddim nes 1939 pan ceir y cyfeiriad cyntaf iddo yn Cymru'r Plant cylchgrawn yr Urdd. Gellir tybio i dŵf addysg a'r cyfryngau Cymraeg yn yr 1970au arwain ar i'r enw Siôn Corn drechu 'Santa Clôs' fel y ffurf cyffredin llafar Cymraeg am y cymeriad. Mae'n enghraifft llwyddiannus o Gymreigio traddodiad Seisnig ac Americanaidd.
Cân Siôn Corn
[golygu | golygu cod]Dyma geiriau cân Siôn Corn gan J. Glyn Davies, sydd bellach yn adnabyddus i blant Cymru ac sy'n cael ei chanu a'i pherfformio adeg y Nadolig.[3] Ceir hefyd fersiwn pync gan grŵp Plant Duw.[4] 'Pwy sy'n dwad dros y bryn neu Siôn Corn (Santa Clôs Cymraeg)'
Pwy sy'n dwad dros y bryn,
yn ddistaw ddistaw bach;
ei farf yn llaes
a'i wallt yn wyn,
â rhywbeth yn ei sach?
A phwy sy'n eistedd ar y to
ar bwys y simne fawr?
Siôn Corn, Siôn Corn
Tyrd yma, tyrd i lawr!
Mae saith rhyfeddod yn dy sach,
gad i mi weled un?
a rho ryw drysor bychan bach
yn enw Mab y Dyn.
Mae'r gwynt yn oer ar frig y to,
mae yma disgwyl mawr.
Siôn Corn, Siôn Corn. Helo, helo.
Tyrd yma, tyrd i lawr!
Caneuon Siôn Corn
[golygu | golygu cod]Ceir amrywiaeth o ganeuon pop cyfoes sy'n sôn am Siôn Corn. Yn eu mysg mae, Siôn Corn Yn Galw Draw - Ieuan Rhys + Fiona Bennett;[5] Mins Peis a Chaws - Y Bandana.[6] Ceir hefyd caneuon penodol i blant bach sy'n cyfeirio at Siôn Corn, fel Siôn Corn ydw i gan Mynediad am Ddim.[7]
Enwau mewn amryw o wledydd
[golygu | golygu cod]Defnyddir amrywiadau ar y term "Tad y Nadolig" (Saesneg:"Father Christmas") mewn nifer o wledydd ac ieithoedd. mewn llawer o'r gwledydd Slafaidd cyfeirir ar y 'Tad Barug' (Ded Moroz) ganrifoedd yn ôl ond yn wahanol i'r Sion Corn gorllewinol, does dim byd cyfrinachol am ei ymweliadau, ac mae'n rhoi ei anrheg i'r person wyneb-yn-wyneb. Mae ffurfiau ar "Santa Claus" yn gyffredin yn ogystal. Defnyddir y term "Tad y Nadolig", "Santa Claus" ac weithiau "baban Iesu" (i gyfeirio at yr Iesu) yn y gwledydd a'r ieithoedd dilynol:
- Affganistan - "Baba Chaghaloo"
- Yr Aifft - "Papa Noël"
- Ucheldiroedd yr Alban - "Daidaín na Nollaig"
- Albania - "Babadimri"
- Yr Almaen - "Weihnachtsmann" neu "Nikolaus"
- Armenia - "Gaghant Baba"
- Awstria - "Weihnachtsmann" neu "Nikolaus"
- Brasil - "Papai Noel"
- Bwlgaria - "Dyado Koleda"
- Cernyw - "Tas Nadelik"
- De Affrica - "Vader Kersfees" neu "Kersvader"
- Denmarc - "Julemanden"
- Ecwador - "Papa Noel"
- Yr Eidal - "Babbo Natale"
- Y Ffindir - "Joulupukki"
- Ffrainc a Canada Ffrengig - "le Père Noël"
- Gogledd Macedonia - "Dedo Mraz"
- Gweriniaeth Tsiec - "Ježíšek"
- Gwlad y Basg - "Olentzero"
- Gwlad Groeg - "Άγιος Βασίλης-Άyos Vasílis"
- Gwlad yr Iâ - "Jólasveinninn"
- Hwngari - "Mikulás" neu "Télapó" ("Tad Gaeaf")
- Iran - "Baba Noel"
- Yr Iseldiroedd - "Kerstman", Gelderland ac Overijssel
- Iwerddon - "Daidí na Nollag"
- Japan - "サンタクロース" ("Santakurôsu")
- Latfia - "Ziemassvētku vecītis"
- Libanus - "Baba Noël"
- Lithwania - "Kalėdų Senelis"
- Llydaw - "Tad-kozh an Nedeleg" ("Tad-cu y Nadolig"), "Tad-kozh ar pellgent" ("Tad-cu y plygain")
- Malta - "San Niklaw" neu "Christmas Father" neu "Santa Klaws"
- Mecsico - "El Niñito Dios" ("Plentyn Duw", yn golygu Iesu)
- Norwy - "Julenissen"
- Gwlad Pwyl - "Święty Mikołaj"
- Portiwgal - "Pai Natal"
- Rwmania - "Moş Crăciun"
- Rwsia - "Ded Moroz"
- Sápmi - "Juovlastállu"
- Sardinia - "Babbu Nadale"
- Sbaen a rhannau o America Ladin Sbaeneg eu hiaith - "Papá Noel", "San Nicolás" neu "Santa Claus"
- Serbia a Bosnia-Hertsegofina - "Božić Bata"
- Slofacia - "Ježiško"
- Slofenia - "Božiček"
- Sri Lanca - "Naththal Seeya"
- Sweden - "Jultomten"
- Y Swistir - "Samichlaus"
- Tsiena - "Shengdan Laoren" (Tsieineeg draddodiadol: 聖誕老人, Tsieineeg syml: 圣诞老人, Cantoneg: Sing Dan Lo Yan, ("Hen Ddyn Nadolig")
- Tsile - "Viejito Pascuero"
- Twrci - "Noel Baba"
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://www.hymnsandcarolsofchristmas.com/Poetry/christmas_his_masque.htm
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=AWVKzdyWRps
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=fn1_T-zLhvQ
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=GqCoLruQh2I
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=nX4dYUiqYXg&list=PLhhslAvhxzEBJzWLA4Z-aR46oidtTNLBE&index=12
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=Cwly5j9NKaQ&list=PLhhslAvhxzEBJzWLA4Z-aR46oidtTNLBE&index=11
- ↑ http://welshnurseryrhymes.wales/Gartref?cerdd=117