Ynys Prince Charles
Gwedd
Math | ynys |
---|---|
Enwyd ar ôl | Charles III |
Poblogaeth | 0 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canadian Arctic Archipelago |
Lleoliad | Cefnfor yr Arctig |
Sir | Nunavut |
Gwlad | Canada |
Arwynebedd | 9,521 km² |
Gerllaw | Foxe Basin |
Cyfesurynnau | 67.75°N 76°W |
Hyd | 130 cilometr |
Ynys yng ngogledd Canada yw Ynys Prince Charles. Saif ger arfordir gorllewinol Ynys Baffin, ac mae ganddi arwynebedd o 9,521 km; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Nid oes poblogaeth barhaol arni.
Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhan o diriogaeth Nunavut. Er ei bod yn ynys fawr, dim ind yn 1948 y ceir y cofnod cyntaf o'i bodolaeth, pan welwyd hi o'r awyr gan Albert-Ernest Tomkinson. Mae'n bosibl fod yr Inuit eisoes yn gwybod amdani. Enwyd hi ar ôl y Tywysog Siarl, a anwyd yr un flwyddyn.