Neidio i'r cynnwys

Ynys Salamis

Oddi ar Wicipedia
Ynys Salamis
Mathynys, polis Edit this on Wikidata
Poblogaeth39,220 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirIslands Regional Unit Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Groeg Gwlad Groeg
Arwynebedd95 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr375 metr Edit this on Wikidata
GerllawGwlff Saronica Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.9381°N 23.4853°E Edit this on Wikidata
Cod post189 xx Edit this on Wikidata
Map
Canol prifddinas Ynys Salamis

Ynys Salamis (Groeg Ddemotig: Σαλαμίνα, Salamina; Hen Roeg/Katharevousa: Σαλαμίς, Salamis) yw'r ynys fwyaf yng Ngwlff Saronica, tua 1 filltir forwrol (2 km) dros y dŵr o borthladd Piraeus, Attica, Gwlad Groeg. Ei phrif borthladd yw Paloukia, yn ail i Piraeus yn unig o ran ei maint yn Ngwlad Groeg. Tybir fod yr enw Salamis yn tarddu o'r gair Salam (chalam), 'heddwch'; cyfeirir ati gan Homer. Yn ôl damcaniaeth arall mae'n tarddu o enw mam Cychreus, brenin cyntaf yr ynys.

Mae'r ynys yn adnabyddus am Frwydr Salamis, a ymladdwyd rhwng y Groegiaid a'r Persiaid yn 480 CC. Yn ôl traddodiad ganwyd yr arwr Aias (Ajax) a'r dramodydd Clasurol Ewripides yno hefyd.

Heddiw mae'n gartref i wersyllfa sy'n bencadlys i Lynges Groeg. Bomiwyd yr harbwr gan y Luftwaffe Almaenig yn 1941, gan suddo'r llongau rhyfel Groegaidd Kilkis a Lemnos.