Yousaf Raza Gillani
Yousaf Raza Gillani | |
---|---|
Ganwyd | 9 Mehefin 1952 Karachi |
Dinasyddiaeth | Pacistan |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, gwleidydd |
Swydd | Prif Weinidog Pacistan, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Pacistan, Speaker of the National Assembly of Pakistan, Chairman of the Senate of Pakistan |
Plaid Wleidyddol | Plaid Pobl Pacistan |
Prif Weinidog Pakistan oedd Yousaf Raza Gillani (ganed 9 Mehefin, 1952). Roedd yn cynrychioli Plaid Pobl Pakistan (PPP), plaid y diweddar Benazir Bhutto. Roedd yn Brif Weinidog rhwng 25 Mawrth 2008 a 26 Ebrill 2012, pan olynodd Muhammad Mian Soomro o Cynghrair Mwslimaidd Pacistan. Gillani oedd 24ain Prif Weinidog Pacistan.
Ei weinidogaeth
[golygu | golygu cod]Un o'r problemau mwyaf y bu'n rhaid i Gillani wynebu pan gymerodd drosodd oedd gwrthryfel cynyddol fwy agored Taliban Pacistan. Gyda'r Taliban a'u cynghreiriaid yn rheoli ardal dyffryn Swat, sy'n cyrraedd o fewn 100 milltir o Islamabad, a rhannau eraill o'r NWFP, daeth Gillani dan bwysau aruthrol gan Barack Obama, Arlywydd UDA, i gymryd camrau llym. Ar ddiwedd mis Ebrill 2009 dechreuodd ymladd rhwng Byddin Pacistan a gwrthryfelwyr yn nosbarthau Dir a Swat. Dwyshaodd yr ymladd gyda'r fyddin yn ceisio disodli'r Taliban o Swat. Ar 7 Mai 2009 gorchmynodd Gillani i'r Fyddin "i ddileu'r tefysgwyr" yn Swat.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Army ordered to eliminate terrorists: Gilani" PakistanNews.net Archifwyd 2011-07-22 yn y Peiriant Wayback 07.05.2009.