Bathseba
Bathseba | |
---|---|
Ganwyd | c. 1009 CC Giloh |
Bu farw | c. 937 CC |
Dinasyddiaeth | Cymeriad Beiblaidd |
Galwedigaeth | brenhines gydweddog |
Swydd | mam y frenhines |
Tad | Elïam |
Priod | Ureias yr Hethiad, Dafydd |
Plant | Solomon, Nathan, Sobab |
Llinach | Cyff Dafydd |
Roedd Bathseba yn wraig i Ureias* yr Hethiad ac yn ddiweddarach i Dafydd Frenin, yn ôl yr Hen Destament. Mae hi'n fwyaf adnabyddus am y naratif Beiblaidd lle gwysiwyd hi gan y Brenin Dafydd, a oedd wedi ei gweld yn ymolchi ac yn ei chwenychu hi. Hi oedd mam Solomon, a olynodd Dafydd yn frenin. Roedd hi hefyd yn un o hynafiaid yr Iesu [1] Ystyr ei henw yw merch y llw.[2]
*Nodyn yn y Beibl Cymraeg Newydd sillafir ei enw fel Ureia
Naratif Beiblaidd
[golygu | golygu cod]Roedd Bathseba yn ferch i Elïam (2 Samuel 11:3 [3]). Yn 1 Cronicl sillafir ei henw hi fel Bathsua a'i thad fel Ammiel [4]. Roedd hi'n wraig i Ureias yr Hethiad, milwr ym myddin Dafydd.
Disgrifir rhyngweithiadau cyntaf Dafydd â Bathseba yn 2 Samuel 11,[5] ac fe'u hepgorir yn Llyfrau'r Croniclau. Wrth gerdded ar do ei balas, gwelodd Dafydd ddynes hardd iawn yn ymolchi. Gwnaeth ymholiadau i ganfod pwy oedd hi a darganfod mai Bathseba, gwraig Ureias, oedd hi. Cafodd chwantau rhywiol amdani a'i galw i ddod ato i'w balas. Mae Dafydd a Bathseba yn cael cyfathrach rywiol ac mae hi'n dod yn feichiog gyda phlentyn y Brenin.[6]
Mewn ymdrech i guddio ei bechod, gwysiodd Dafydd Ureias o'r fyddin (a oedd ynghanol ymgyrch milwrol ar y pryd) yn y gobaith y byddai Ureias yn cael rhyw gyda'i wraig a chredu mai ef oedd yn gyfrifol am feichiogi Bathseba. Ond roedd Ureias yn anfodlon torri'r traddodiad milwrol o beidio cael rhyw ar adeg ymgyrch milwrol ac o aros gyda'r fyddin a'r creiriau sanctaidd byddai'n bresennol mewn ymgyrch. Yn hytrach na mynd adref i'w wely ei hun, roedd yn well ganddo aros gyda milwyr y palas. Wedi i bob ymdrech i gael Ureias i gysgu gyda'i wraig methu, ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab, arweinydd y fyddin, a'i anfon gydag Ureias yn ôl i faes y gad. Roedd y llythyr yn gorchymyn bod Joab yn rhoi Ureias ar flaen y gad lle'r oedd y frwydr yn boethaf ac yna i gilio'n ôl oddi wrtho, er mwyn iddo gael ei daro'n farw. Lladdwyd Ureias a phriododd Dafydd â Bathseba.[7]
Roedd gweithred Dafydd yn ddrwg yng ngolwg Duw. Anfonodd Duw Nathan y proffwyd i geryddu’r brenin. Mae Nathan yn adrodd hanes am ddyn cyfoethog oedd a llawer o ddefaid a gwartheg yn cymryd unig oen ei gymydog tlawd.[8] Mae dicter y brenin yn erbyn gweithred anghyfiawn yn cael ei gyffroi. Yna cymhwysodd y proffwyd yr achos yn uniongyrchol i weithred Dafydd parthed Bathseba. Cyfaddefodd y brenin ei bechod ar unwaith a mynegodd edifeirwch diffuant. Cafodd plentyn cyntaf Bathseba gan Dafydd ei daro â salwch difrifol a bu farw, yn ddienw, ychydig ddyddiau ar ôl ei eni, a derbyniodd y brenin hwn fel ei gosb. Nododd Nathan hefyd y byddai tŷ Dafydd yn cael ei gosbi am lofruddiaeth Ureias.
Yn ddiweddarach, esgorodd Bathseba ar fab Dafydd, Solomon. Yn henaint Dafydd, sicrhaodd Bathseba, yn seiliedig ar addewid Dafydd, yr olyniaeth i’r orsedd i Solomon, yn lle meibion hynaf Dafydd gan ei wragedd eraill a oedd wedi goroesi, megis Chileab [9], Adoneia [10] ac eraill. Daeth cosb Dafydd i ben flynyddoedd yn ddiweddarach pan arweiniodd un o hoff feibion Dafydd, Absalom, wrthryfel a blymiodd y deyrnas i ryfel cartref. Ar ben hynny, i amlygu ei honiad am y frenhiniaeth, cafodd Absalom gyfathrach rywiol yn gyhoeddus gyda deg o ordderch wragedd ei dad, y gellid ei hystyried fel cosb ar Dafydd am gymryd gwraig dyn arall yn y dirgel.[11].
Goroesodd Bathsiba Dafydd ei gŵr a bu farw yn ystod teyrnasiad Solomon ei fab.[12]
Islam
[golygu | golygu cod]Yn ogystal â bod yn ffigwr pwysig yn y Beibl Hebraeg / Yr Hen Destament Cristnogol mae Dafydd hefyd yn cael ei ystyried yn broffwyd Islam. Gan fod Islam yn credu bod yr holl broffwydi yn anffaeledig mae'r syniad bod Dafydd wedi pechu trwy ladd Useias er mwyn cael Bathseba yn cael ei wrthod ganddynt. Credant bod Ureias wedi marw yn y frwydr heb ymyrraeth y Brenin.[13]
Darluniau
[golygu | golygu cod]Ynghyd ag Efa, Bathseba oedd yr unig fenyw bron y gellid cyfiawnhau ei darlunio yn noethlymun yn hawdd ac yn rheolaidd mewn celf Gristnogol, ac felly mae hi'n ffigwr pwysig yn natblygiad y darlun noethlymun mewn celf ganoloesol. Er ei fod weithiau'n cael ei ddangos mewn dillad ar adegau eraill yn ei stori, y darlun mwyaf cyffredin, mewn celf ganoloesol a diweddarach, oedd Bathseba yn ei baddon, dyma rai luniau ohoni trwy'r oesoedd:
Arlunydd | Dyddiad | Cyfrwng | Darlun | Arlunydd | Dyddiad | Cyfrwng | Darlun |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Hans Memling | 1485 | Olew ar banel | Hendrik van Baelen | 16 g | Olew ar banel | ||
Domenico Riccio | 1552 | Olew ar banel | Jacopo Zucchi | ar ôl 1573 | Olew ar banel | ||
Cornelis van Haarlem | 1594 | Olew ar gynfas | Hans von Aachen | tua 1612-1615 | Olew ar banel | ||
Rembrandt | tua 1645 | Olew ar banel | Jan Steen | tua 1665 - 70 | Olew ar banel | ||
Sebastiano Ricci | 1725 | Olew ar gynfas | François Boucher | 1750 | Olew ar gynfas | ||
Louis-Jean-François Lagrenée | 1770 | Olew ar gynfas | David Wilkie | 1815 | Olew ar gynfas | ||
Paul Cézanne | Olew ar gynfas | 1885-90 | Alexander Andreyevich Ivanov | 19g | Dyfrlliw ar bapur | ||
Franz Stuck | 1913 | Olew ar gynfas | Alfréd Justitz | Cyn 1934 |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Lle fo cyfeiriad yn destun Beiblaidd, bydd dilyn y cysylltiad yn mynd at rifyn Beibl William Morgan Cymdeithas Feiblaidd Prydain a Thramor, 1992 ar wefan Bible Gateway. Am destun mwy cyfoes gellir chwilio am yr un adnodau ar dudalen chwilio Beibl Net
- ↑ Mathew 1:6
- ↑ Thomas Charles, Geiriadur Ysgrythyrol (argraffiad Utica 1863), "Bathseba", t.158 adalwyd 16 Awst 2020
- ↑ 2 Samuel 11:3
- ↑ 1 Cronicl 3:5
- ↑ 2 Samuel 11;2-3
- ↑ 2 Samuel 11:4-5
- ↑ 2 Samuel 11:6-17
- ↑ 2 Samuel 12: 1-6
- ↑ 2 Samuel 3: 1–6
- ↑ 1 Brenhinoedd 1: 11–31
- ↑ 2 Samuel 16: 20–23
- ↑ Mathetes, Geiriadur Beiblaidd a Duwinyddol (1864); tudalen: 684; erthygl:Bathseba adalwyd 16 Awst 2020
- ↑ Tafsir Nemooneh, cyf. 19, t. 257; Oyoun Akhbar Al-Ridha, cyf. 1, t. 154; Amali Saduq, t. 91