Dafydd
Gwedd
Enw personol Cymraeg sy'n tarddu o'r iaith Hebraeg yw Dafydd (Hebraeg: דָּוִד Dávid neu Dāwi). Cyfieithir yr enw yma i'r Gymraeg fel Dewi hefyd. Mae'r enw yn boblogaidd iawn fel enw cyntaf yng Nghymru, ac weithiau fel cyfenw. Fe'i ceir hefyd yn enw'r mynydd Carnedd Dafydd yn Eryri.
Gall Dafydd gyfeirio at:
Enw cyntaf
[golygu | golygu cod]- Beibl
- Y brenin Dafydd, y ceir ei hanes yn Ail Lyfr Samuel yn yr Hen Destament.
- Un o sawl cerflun neu baentiad ohono, yn cynnwys y cerflun Dafydd gan Michelangelo.
- Tywysogion
- Dafydd ap Llywelyn, tywysog Gwynedd, mab Llywelyn Fawr
- Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn ap Gruffudd
- Dafydd ab Owain Gwynedd, mab Owain Gwynedd
- Beirdd
- Dafydd Alaw
- Dafydd ap Gwilym, bardd enwocaf Cymru'r Oesoedd Canol
- Dafydd ab Edmwnd
- Dafydd ap Siencyn
- Dafydd Bach ap Madog Wladaidd (Sypyn Cyfeiliog)
- Dafydd Benfras, un o'r pennaf o Feirdd y Tywysogion
- Dafydd Benwyn
- Dafydd Ddu Athro o Hiraddug
- Dafydd Ddu Eryri (David Thomas)
- Dafydd Gorlech
- Dafydd Ionawr (Richard Davies)
- Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd
- Dafydd Llwyd Mathau
- Dafydd Morganwg (David Watkin Jones)
- Dafydd Nanconwy
- Dafydd Nanmor
- Dafydd y Coed
- Eraill
Cyfenw
[golygu | golygu cod]- Einir Dafydd, cantores a chyflwynydd teledu
- Fflur Dafydd (ganwyd 1978), nofelydd Cymraeg, cantores a cherddor
- Myrddin ap Dafydd (ganwyd 1956), Prifardd a golygydd
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Dewi (gwahaniaethu)