Llyfr Lefiticus
Gwedd
Llyfr Lefiticus yw trydydd llyfr yr Hen Destament yn y Beibl. Yn ogystal mae'n drydydd llyfr y Pumlyfr, neu Tora yr Iddewon. Fe'i priodolir i Moses. Daw'r enw o'r Lefiaid, un o ddeuddeg llwyth Israel a wasanaethai fel offeiriad etifeddol. Prif destun Lefiticus yw cyfraith grefyddol a seremonïol.
Ynddo ceir cyfarwyddiadau manwl ynglŷn ag aberthau a glanweithdra, sy'n dibynnu ar offeiriadaeth y Lefiaid eu hunain. Ceir yn ogystal cyfarwyddiadau ynglŷn â bywyd personol y credadyn, y pwump gwledd grefyddol genedlaethol a rheolau defnydd tir. Mae'n llyfr ceidwadol iawn.