Llyfr Micha
Enghraifft o'r canlynol | ysgrythur, un o lyfrau'r Beibl |
---|---|
Awdur | Micha |
Rhan o | Y mân broffwydi |
Genre | llyfrau proffwydol |
Rhagflaenwyd gan | Llyfr Jona, Llyfr Amos |
Olynwyd gan | Llyfr Nahum, Llyfr Joel |
Yn cynnwys | Micah 1, Micah 2, Micah 3, Micah 4, Micah 5, Micah 6, Micah 7 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llyfr Micha neu Llyfr y Proffwyd Micha yw 33ain llyfr yr Hen Destament.
Cynnwys y llyfr
[golygu | golygu cod]Yn ôl y hanes y llyfr, Gofynnodd Duw i'r proffwyd Iddewig Micha ail-sefydlu heddwch a chyfiawnder yn Israel.
Mae'r llyfr yn nodi y bydd y Meseia'n cael ei eni ym Methlehem (Mi 5:1). Yn y llyfr, atgoffir y bobl fod yr Arglwydd wedi bod yn dda wrthynt, a gofynnir iddynt ddangos cyfiawnder, trugaredd, a gwyleidd-dra (Mi 6:8).
Yn ôl teitl ei Lyfr (Mi 1:1), yng nghyfnod tri brenin Jwda, sef Jotham, Ahas, a Heseceia yr oedd gweinidogaeth Micha, sef tua 740-687 cyn oes Crist. Roedd felly'n byw yn yr un cyfnod ag Eseia a Hoseia, ond yn ieuengach na nhw.
Mae'n proffwydo dinistr Samaria, prifddinas teyrnas Israel, cyn canolbwyntio ar deyrnas Jwda. Yn ei broffwydoliaethau, Yn ei broffwydoliaethau, mae Micha'n targedu arweinyddion Jwda yn bennaf, a'r hyn y mae cyfiawnder a chrefydd yn ei feddwl. Mae o'n rhagweld dinistr Jerwsalem a'r Deml yn ogystal â'r alltudiaeth ym Mabilon, cyn dyfodiad brenin achubol i Fethlehem.
Mae'r testun ynglŷn â curo cleddyfau yn sychau aradr (4:3) yn ymdebygu mewn mannau i Llyfr Eseia (2:4).
Mewn diwylliant
[golygu | golygu cod]Yn ei cherdd wrth arwisgo'r arlywydd Joe Biden, dyfynnodd Amanda Gorman o'r llyfr:
Scripture tells us to envision that everyone shall sit under their own vine and fig tree and no one shall make them afraid. If we’re to live up to our own time, then victory won’t lie in the blade, but in all the bridges we’ve made.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gorman, Amanda (2021-01-20). "The Hill We Climb: the Amanda Gorman poem that stole the inauguration show". the Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-01-23.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]https://www.bible.com/cy/bible/287/MIC.1.BWM - Beibl William Morgan
http://www.beibl.net/beibl-chwilio?viewid=BNET%3AMic.1 - Beibl.net