Pierre-Auguste Renoir
Pierre-Auguste Renoir | |
---|---|
Ganwyd | Pierre Auguste Renoir 25 Chwefror 1841 Limoges |
Bu farw | 3 Rhagfyr 1919, 17 Rhagfyr 1919 Cagnes-sur-Mer |
Man preswyl | Limoges, Paris, Cagnes-sur-Mer |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, cerflunydd, darlunydd, gwneuthurwr printiau, drafftsmon, drafftsmon, arlunydd graffig, porcelain painter |
Adnabyddus am | Young Girls in Black, Two Sisters, La loge, Luncheon of the Boating Party, La Grenouillère |
Arddull | portread (paentiad), noethlun, paentiad mytholegol, celf tirlun, animal art, figure, celf genre, celf y môr, portread, celfyddyd grefyddol, bywyd llonydd |
Mudiad | Argraffiadaeth |
Priod | Aline Renoir |
Partner | Lise Tréhot, Frédérique Vallet-Bisson |
Plant | Pierre Renoir, Jean Renoir, Claude Renoir, Lucienne Bisson, Jeanne Tréhot |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, Officier de la Légion d'honneur, Commandeur de la Légion d'honneur |
llofnod | |
Arlunydd o Ffrainc oedd Pierre-Auguste Renoir (25 Chwefror 1841 – 3 Rhagfyr 1919). Bu'n un o brif arlunwyr y grŵp Argraffiadol (Ffrangeg: Impressionnisme). Datblygodd dechneg o waith brwsh toredig, manwl gyda chyfuniad o liwiau a oedd yn cydweddu er mwyn dal symudiad a golau. Yn dilyn ei ymweliad â'r Eidal ym 1881 newidiodd ei steil i fod yn fwy clasurol.
Priododd, ym 1890, â Aline Victorine Charigot, model yn y paentiad Le Déjeuner des canotiers.
Bu'n dad i'r actor Pierre Renoir (1885–1952), y cyfarwyddwr ffilm Jean Renoir (1894–1979) a'r crochenydd Claude Renoir (1901–69). Yn daid i'r gweithiwr ffilm Claude Renoir (1913–1993), mab Pierre.
Bywyd a Gwaith
[golygu | golygu cod]Cafodd ei eni yn Limoges, Haute-Vienne, Ffrainc i deulu tlawd. Dechreuodd weithio fel peintiwr ar borslen. Symudodd i Baris, gan ymuno â stiwdio'r arlunydd ffasiynol Charles Gleyre tua 1861-2. Ym Mharis cyfarfu â Claude Monet ac ym 1869 dechreuodd y ddau weithio gyda'i gilydd yn sgetsio wrth Afon Seine.
Bu'n anhapus gyda'r system swyddogol Salon a oedd yn araf i arddangos gwaith newydd a mentrus. Ym 1873 bu Renoir ymhlith y grŵp o artist, yn cynnwys Claude Monet, Camille Pissarro, Paul Cézanne, a ffurfiodd y Société Anonyme Coopérative des Artistes Peintres 6 o gynfasau mewn arddangosfa'r Société Anonyme a ddaeth yn enwog yn ddiweddarach fel yr arddangosfa Impressionniste (Argraffiadol) gyntaf.
Yn ystod y 1880au teithiodd Renoir dramor, yn ymweld â'r Eidal, Yr Iseldiroedd, Sbaen, Lloegr, Yr Almaen ac Algeria. Bu'n edmygwr mawr o Raffael, Diego Velázquez, a Peter Paul Rubens, a bu'n ddylanwad ar ei waith.[1]
Ar ddiwedd ei oes, dioddefodd arthritis a bu rhaid clymu ei frwsh i'w law er mwyn iddo ei ddal.[2]
Ym 1919, blwyddyn olaf ei fywyd, prynodd oriel fwyaf Paris y Louvre un o'i luniau, anrhydedd mawr iddo ac yn arwydd o'r sefydliad celf yn derbyn gwaith Impressionniste o'r diwedd.[3]
Mae dau o ddarluniau Renoir wedi'u gwerthu am fwy na $70 miliwn dolar. Gwerthwyd Bal au moulin de la Galette am $78.1 miliwn ym 1990, un o'r darluniau drytach y byd ar y pryd.
Yn 2012, cafodd un o gynfasau Renoir Paysage bord du Seine ei rhoi ar werth mewn ocsiwn ond ddarganfuwyd a gafodd ei ddwyn o Oriel Gelf Baltimore ym 1951 a fe'i dynnwyd yn ôl o'r farchnad.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Y Bocs Theatr, 1874
Oriel Sefydlaid Courtaul -
La Balançoire, 1876
Musée d'Orsay, Paris -
Dawns yn Le Moulin de la Galette, 1876
-
Lise'n gwnïo, 1866
Amgueddfa Gelf Dallas -
La Grenouillère, 1868
Amgueddfa Stockholm -
Portread Alfred Sisley, 1868
-
Claude Monet yn peintio yn ei ar ardd yn Argenteuil, 1873
Wadsworth Atheneum, Connecticut -
Portread Claude Monet, 1875,
Musée d'Orsay -
Merch gyda chan dyfrio, 1876
Oriel Gelf Genedlaethol Washington, D.C. -
Mme. Charpentier a'i phlant, 1878
Amgueddfa Gelf Metropolitan -
Portread Alphonsine Fournaise, 1879
Musée d'Orsay -
Wrth y Dŵr, 1880
Sefydliad Celf Chicago -
Cinio'r Hwylwyr, 1880–1881
Casgliad Phillips Collection, Washington, D.C. -
Portread Charles a Georges Durand-Ruel, 1882
-
Dance at Bougival, 1882–1883
Amgeuddfa Gelf Gain Boston -
Dawns yn y Wlad (Aline Charigot a Paul Lhote), 1883
Musée d'Orsay, Paris -
Astudiaeth Pensil ar gyfer Dawns yn y Wlad, 1883
Amgueddfa Gelf Honolulu -
Plant ar y Traeth yn Guernsey, 1883, Sefydliad Barnes, Philadelphia
-
Jeune garçon sur la plage d'Yport, 1883
Sefydliad Barnes, Philadelphia -
Merch gyda Chylchyn , 1885
Amgeuddfa Gelf Genedlaethol, Washington, D.C. -
Merch yn Platio ei Gwallt (Suzanne Valadon), 1885
-
Julie Manet gyda Chath, 1887
-
Portread Berthe Morisot a'i Merch Julie Manet, 1894
-
Gabrielle Renard a'r mab bach Jean Renoir, 1895
-
Teulu'r Artist, 1896
Sefydliad Barnes, Philadelphia -
Portread Ambroise Vollard, 1908
-
Portread Paul Durand-Ruel, 1910
-
Portread Ambroise Vollard, 1917
Hunan Bortreadau
[golygu | golygu cod]-
Hunan Bortread, 1875
-
Hunan Bortread, 1876
-
Hunan Bortread, 1910
-
Hunan Bortread, 1910
Noeth
[golygu | golygu cod]-
Diana yr Helwraig, 1867
Amgueddfa Gelf Genedlaethol, Washington, DC -
Noeth yn yr Haul, 1875
Musée d'Orsay, Paris -
Merch yn eistedd, 1883
-
Yr Ymdrochwyr Mawr', 1887
Amgueddfa Gelf Philadelphia -
Wedi'r Bath, 1888
-
Tair Ymdrochwriag, 1895
Amgeuddfa Gelf Cleveland, Ohio -
Noeth
Amgueddfa Gelf Genedlaethol Serbia -
Wedi'r Bath, 1910
Sefydlaid Barnes, Philadelphia -
Merch wrth y Ffynnon, 1910
-
Ymdrochwraig, yn Sychu ei Choes wrth Eistedd, 1914
Musée de l'Orangerie, Paris -
Meched yn Ymdrochi, 1916
Amgeuddfa Genedlaethol, Stockholm -
Ymdrochwyr, 1918
Sefydliad Barnes, Philadelphia