Titw'r helyg
Titw'r helyg | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Paridae |
Genws: | Poecile |
Rhywogaeth: | P. montanus |
Enw deuenwol | |
Poecile montanus (Conrad von Baldenstein, 1827) | |
Cyfystyron | |
Parus montanus |
Mae Titw'r helyg (Poecile montanus) yn aelod o deulu'r Paridae, y titwod. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gogledd Asia.
Mae'n perthyn yn agos i Ditw'r wern ac yn bur debyg iddo o ran ymddangosiad ac arferion, ond mae'n hoffi coed pinwydd yn fwy na'r Thitw'r Wern ac o'r herwydd yn nythu ymhellach i'r gogledd. Nid yw'n aderyn mudol. Yn wahanol i'r mwyafrif o'r titwod eraill, sy'n defnyddio tyllau sydd eisoes yn bodoli mewn coed i nythu, mae Titw'r Helyg yn aml yn gwneud ei dwll ei hun mewn pren wedi pydru.
Ar un adeg roedd Titw'r Helyg yn aderyn pur gyffredin yng Nghymru, ond mae ei niferoedd wedi gostwng yn fawr yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, ac mae wedi diflannu'n llwyr o rai ardaloedd. Nid oes sicrwydd beth yw'r rheswm am hyn.