Iffosffamid
Enghraifft o'r canlynol | par o enantiomerau |
---|---|
Math | heterocyclic compound |
Màs | 260.029718626 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₇h₁₅cl₂n₂o₂p |
Enw WHO | Ifosfamide |
Clefydau i'w trin | Neoplasm diniwed ar yr ysgyfaint, lymffosarcoma, canser y fron, lewcemia lymffoid, canser y ceilliau, lewcemia lymffosytig cronig, sarcoma cell piswydden, lymffoma hodgkins, cellogrwydd amrywiol, canser y pancreas, canser ofaraidd, canser y stumog, diffuse large b-cell lymphoma, sarcoma ewing |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia d, categori beichiogrwydd unol daleithiau america d |
Yn cynnwys | ffosfforws, carbon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae iffosffamid (IFO), sy’n cael ei werthu dan yr enw brand Mitoxana ymysg eraill, yn feddyginiaeth cemotherapi a ddefnyddir i drin nifer o fathau o ganser.[1] Mae hyn yn cynnwys canser y ceilliau, sarcoma meinwe meddal, osteosarcoma, canser y bledren, canser celloedd bach yr ysgyfaint, canser ceg y groth, a chanser ofarïaidd. Mae'n cael ei weini drwy chwistrelliad i mewn i wythïen[2]. Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₇H₁₅Cl₂N₂O₂P.
Sgil effeithiau
[golygu | golygu cod]Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys colli gwallt, chwydu, gwaed yn yr wrin, heintiau, a phroblemau arennau. Mae sgil effeithiau difrifol eraill yn cynnwys atal mêr esgyrn a gostwng lefel ymwybyddiaeth. Bydd defnydd yn ystod beichiogrwydd yn debygol o arwain at niwed i'r babi. Mae Ifosfamide yn perthyn i'r teulu asiantau alcyleiddio a mwstard nitrogen o feddyginiaethau. Mae'n gweithio trwy amharu ar ddyblygu DNA a chreu RNA[3].
Mae Ifosfamide ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Y gost gyfanwerthol yn y byd sy'n datblygu yw tua 7.35 i 70.70 $ UDA fesul ffiol 2 gm. Yn y DU mae'r dogn hwn yn costio'r GIG tua £130.
Defnydd meddygol
[golygu | golygu cod]Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer amrywiaeth o wahanol fathau o ganser, gan gynnwys:
- Canser y ceilliau
- Canser y fron
- Lymffoma (Hodgkin a di-Hodgkin)
- Sarcoma Meinwe Meddal
- Osteosarcoma (tiwmor esgyrn)
- Canser yr ysgyfaint
- Canser serfigol
- Canser ofarïaidd
Enwau
[golygu | golygu cod]Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Iffosffamid, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
Gweini
[golygu | golygu cod]Mae Ifosfamide yn bowdr gwyn. Wedi ei baratoi i'w ddefnyddio mewn cemotherapi, mae'n cael ei droi yn hylif clir a di-liw. Mae'r cael ei weini yn fewnwythiennol.
Caiff Ifosfamide ei ddefnyddio'n aml ar y cyd â chyffur arall o'r enw mesna i osgoi gwaedu mewnol yn y claf, yn arbennig i rwystro llid gwaedlyd yn y bledren (hemorrhagic cystitis).
Rhoddir Ifosfamide yn gyflym, ac mewn rhai achosion gellir ei roi mor gyflym ag awr.
Sgil effeithiau
[golygu | golygu cod]Mae llid gwaedlyd yn y bledren yn anghyffredin pan roddir ifosfamide ar y cyd â mesna. Sgil effaith cyffredin, sydd yn gallu effeithio ar faint o ddos gellir ei roi, yw enseffalopathi (camweithrediad yr ymennydd). Mae enseffalopathi yn digwydd mewn rhyw ffurf mewn hyd at 50% o gleifion. Gall yr adwaith cael ei gyfryngu gan chloroacetaldehyde, un o gynhyrchion ymddatodiad moleciwl ifosfamide, sydd â nodweddion cemegol tebyg i asetaldehyde a cloral hydrad. Gall symptomau enseffalopathi ifosfamide amrywio o ysgafn (anhawster i ganolbwyntio, blinder), i gymedrol (deliriwm, seicosis), i ddifrifol (statws epilepticws neu goma). Mewn plant, gall hyn ymyrryd â datblygiad niwrolegol. Ar wahân i'r ymennydd, gall ifosfamide hefyd effeithio ar nerfau perifferol. Bydd problemau blaenorol efo'r ymennydd a lefelau isel o albwmen yn y gwaed yn cynyddu tebygrwydd enseffalopathi ifosfamide. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae problemau yn datrys eu hunain heb ymyrraeth o fewn 72 awr. Y driniaeth fwyaf effeithiol ar gyfer enseffalopathi difrifol (gradd III-IV) yw dos mewnwythiennol o fethylen glas, sy'n ymddangos i leihau pa mor hir bydd cyfnod yr adwaith.. Mewn rhai achosion, gellir defnyddio methylene glas fel proffylacsis cyn gweinyddu dosau pellach o ifosfamide. Mae triniaethau eraill yn cynnwys albwmen a thiamin, a defnyddio dialysis fel dull achub.
Gall Ifosfamide hefyd achosi asidosis bwlch anion, yn benodol asidosis tiwbaidd math 2.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Pubchem. "Iffosffamid". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
- ↑ Gwasanaeth Macmillan Ifosfamide (Mitoxana ®) Archifwyd 2017-10-06 yn y Peiriant Wayback adalwyd 25 Ionawr 2018
- ↑ Cancer Research UK Ifosfamide (Mitoxana) adalwyd 25 Ionawr 2018
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |